'Gobeithio fydd 'na bach o ryddhad i Matthew rŵan'
Mae'r cyn-hyfforddwr pêl-droed, Barry Bennell, wedi cael dedfryd o bedair blynedd o garchar am droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn dau chwaraewr ifanc.
Dywedodd un o'r ddau ddioddefwr, Matthew Monaghan: "Fe ddifethodd Bennell freuddwydion fy mhlentyndod a chymryd hynny oddi wrtha i."
Peta Pollit, mam Matthew Monaghan, fu'n trafod ei hymateb i ddedfryd Barry Bennell yn Llys y Goron Caer ddydd Iau.