Oes 'na ddyfodol i'r albym?

  • Cyhoeddwyd
Elin Cain, Chris Roberts a Sian Eleri

Gyda cherddoriaeth y dyddiau yma ar gael i'w ffrydio unrhyw bryd, unrhyw le, unrhyw sut, ydy'r cynnnwrf o gydio mewn albym newydd sgleiniog yn eich llaw a gwrando o'r dechrau i'r diwedd yn brofiad dieithr erbyn hyn?

Ar Ddiwrnod Cenedlaethol yr Albym, fe ofynnon ni i dri o ffans cerddoriaeth Cymru sut maen nhw'n gwrando ar fiwsig, beth yw'r dyfodol i'r albym a beth yw eu hoff albym?

Chris Roberts, blog a phodlediad Sôn am Sîn

Dwi yn bennaf yn defnyddio gwasanaethau ffrydio i wrando ar gerddoriaeth rŵan achos mae o mor hawdd. Ma'n rili handi cael o yn dy boced. Ond dwi hefyd yn prynu vinyl.

Dwi'n licio cael y ddefod o wrando... dwi'n licio'r gwaith celf, dwi'n licio cael agor o, dwi'n licio troi o drosodd a ballu felly dwi'n meddwl bo' 'na le i'r ddau beth.

Dwi'n meddwl fod yna rhywbeth arbennig am wrando ar albym o'r cychwyn i'r diwedd - os oes 'na reswm dros neud hynny. Ond dwi hefyd wrth fy modd yn gwrando ar playlists a chael cymysgedd o gerddoriaeth. Dwi'n meddwl bod y ddau beth yn hwyl.

Chris RobertsFfynhonnell y llun, Chris Roberts

Heb os, mae 'na ddyfodol i'r albym. Dwi'n meddwl fod pobl yn mwynhau cael 40 munud, 50 munud, awr, efo'r un artist a mynd ar y daith yna o'r cychwyn i'r diwedd drwy gerddoriaeth.

Dwi'n meddwl fod yr albyms gorau yn gwneud hynny ac yn parhau i wneud hynny... yn y flwyddyn 'da ni 'di cael rhai o'r albyms gorau erioed yn dod allan: Mirores gan Ani Glass, Joia gan Carwyn Ellis a Rio 18, Kiwanuka gan Michael Kiwanuka.

Domino
...pob tro dwi'n gwrando dwi'n sylwi ar rhywbeth newydd.
Hoff albym Chris Roberts: Whatever People Say I Am, That's What I'm Not

Mae Dogrel gan Fontaines DC yn albym anhygoel. Mae pobl yn dal i wthio ffiniau'r albym. Yn dal i fod yn greadigol efo be' alli di wneud efo albym fatha 'da ni 'di gweld Beyoncé yn gwneud efo'i albym Lemonade.

Yn fasnachol hefyd dwi'n meddwl bod o'n bwysig. Mae 'na fanteision mawr i'r gwasanaethau ffrydio ond 'dy nhw ddim wastad yn rhoi lot o arian i hyd yn oed artistiaid 'da ni'n ystyried fel artistiaid eitha' mawr.

Un albym dwi wir yn hoffi a sydd pob tro'n eitha' agos i'r top ydy Whatever People Say I Am, That's What I'm Not gan Arctic Monkeys. Ddoth o allan pan o'n i'n rhyw 13 a dwi'n dal i wrando arna fo llwyth a llwyth a llwyth a pob tro dwi'n gwrando dwi'n sylwi ar rhywbeth newydd. Mae'r lyrics yn ddoniol, maen nhw'n graff, maen nhw'n rhoi chdi mewn lle ac amser penodol sef Sheffield yn ganol y 2000au ar noson allan, a dwi'n meddwl ei fod o'n albym wirioneddol arbennig.

Nid yw’r post yma ar Facebook yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Facebook
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
I osgoi fideo facebook gan BBC Cymru Fyw

Caniatáu cynnwys Facebook?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Facebook Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
Diwedd fideo facebook gan BBC Cymru Fyw

Elin Cain, myfyriwr MA

Weithia' dwi'n teimlo 'chydig bach yn embarrassed i ddeud o ond dwi yn gwrando ar lot o fiwsig drwy Spotify. Dwi'n meddwl mae'n ffordd dda o ffeindio miwsig hefyd.

Ond eto, dwi hefyd y person yna… os dwi'n ffeindio albym dwi'n licio yn ei chyfanrwydd dwi'n dueddol o brynu fo ar vinyl. Dwi jysd yn joio gallu prynu fo gan yr artist a cefnogi nhw hefyd. Dwi'n gwrando ar lot o 6Music hefyd a dipyn ar Radio Cymru.

Elin CainFfynhonnell y llun, Elin Cain

Dwi'n tueddu i wrando mwy ar playlists o ganeuon unigol yn hytrach 'na gwrando ar albym o'r dechrau i'r diwedd. Ond yn ddiweddar dwi 'di bod yn trio trainio fy hun i wrando ar albyms mwy o'r dechrau i'r diwedd a dwi yn joio fo lot mwy, ma'n rhaid i mi ddweud.

Dwi'n gwybod fod dwy o fy nghyfnitherod bach i yn gwylio lot o Youtube a TikTok. Dwi'n meddwl fod yna lot o bobl yn clywed caneuon oddi ar TikTok y dyddiau yma a maen nhw'n mynd yn massive.

Mae 'na lot o albyms da allan yna ar hyn o bryd - yn enwedig ar ôl Mercury Prize blwyddyn yma. Dwi'n definitely yn meddwl bod 'na le iddo fo.

Blwyddyn diwethaf pan wnaeth Yr Ods ryddhau albym efo llyfr Llwyd Owen… wnaeth hwnna jysd dangos i bawb eto dwi'n meddwl pa mor bwysig, o ran y Sîn Roc Gymraeg… faint o ddarn o gelfyddyd ydy albym. A mi wnaeth hwnna wneud i fi fod eisiau dechrau gwrando ar albyms o'r dechrau i'r diwedd eto.

Dwi'n rili gobeithio fod pobl yn cario mlaen i gael eu ysbrydoli i wneud albyms. Dwi jysd yn meddwl bod nhw'n betha rili sbeshal. A pan ti yn cymryd yr amser i wrando ar albym o'r dechrau i'r diwedd heb shyfflo fo neu be' bynnag… ti rili jysd yn gweld y gwaith sy' 'di mynd fewn iddo fo.

Albym Yr Atal Genhedlaeth
Placid Casual
Fyswn i'n gallu dewis tua 10 hoff albym!
Hoff albwm Gymraeg Elin Cain: Yr Atal Genhedlaeth

Ond mae pob dim y dyddiau yma mor based ar ganeuon unigol. Playlists, neu pobl ar TikTok, neu be' bynnag, neu hyd yn oed ar y radio - ti'n dueddol o glywed yr un sengl 'na, neu un gân. Mae pobl yn mynd yn crazy am yr un gân gan yr un artist 'ma a wedyn ti byth yn clywed am yr artist 'ma byth eto. Fatha'r boi 'na... Lewis Capaldi.

Dwi'm eisiau bod yn pessimist ond ti yn teimlo weithiau bod y syniad 'na o gael albyms yn eu cyfanrwydd yn slipio i ffwrdd.

Ond eto ti yn cael moments o obaith. Dwi'n meddwl mae 'na wave newydd o bobl ifanc sy'n rili joio cerddoriaeth. A mae hynny'n dod law yn llaw efo pobl yn dal i lyfio albyms hefyd, neu'n dechrau lyfio'r syniad o wrando ar albym cyfa' eto.

Yn enwedig efo pobl fatha Arctic Monkeys yn gwneud albyms conceptual. Dwi'n meddwl fod pobl fatha nhw 'di neud i bobl feddwl "O hang on... mae albyms yn eu cyfanrwydd yn gallu bod yn bethau amazing."

Fyswn i'n gallu dewis tua 10 hoff albym! Yr un Cymraeg 'swn i'n ddewis ydy Yr Atal Genhedlaeth gan Gruff Rhys. A probably all-time favourite fi ydy Pet Sounds gan y Beach Boys. Swni'n gallu gwrando arna fo drwy dydd pob dydd, mae'n stunning o albym.

Sian Eleri, cyflwynydd radio

Tua 99% o'r amser 'swn i'n gwrando ar gerddoriaeth trwy ffrydio neu ar y radio.

Dwi'n meddwl achos natur ffrydio ti'n tueddu i gael snippets o ganeuon gan artistiaid gwahanol. Ella rhai ti ddim 'di gwrando i o'r blaen. So efo artistiaid fel'na, deud bo fi'n dod ar draws rhywun a dwi'n rili licio eu sŵn nhw, dwi'n mynd i wrando ar cwpwl o draciau sydd ganddyn nhw ar y Top 5 a wedyn 'swn i'n mynd fewn i albym.

Ond os dwi'n rili licio artist o flaen llaw, a bo' fi 'di bod yn anticipateio albym newydd yn dod allan ers sbel, bo' fi'n rili excited i wrando ar cynnwys maen nhw 'di greu yn y cyfnod yna mi wna'i wrando ar albym o'r dechrau i'r diwedd fel oedd yr artist yn gobeithio cael ei wrando arna fo.

Sian EleriFfynhonnell y llun, Sian Eleri

Mae 'na dueddiad i dybio fod pobl ifanc jysd yn gwrando ar senglau a bod 'na ddim byd arall. Neu bo' chdi'n gorfod bod yn music-head i wrando ar albym. Dwi wir ddim yn meddwl bo' hynna'n wir. Di'o sicr ddim yn wir i fi.

Mae canran fawr iawn o'n ffrindiau i yn gwrando ar albyms. Mae 'na apiau newydd allan rwan fatha TikTok er enghraifft. Mae'r tueddiad ar hwnnw i greu trac sydd yn mynd i fod yn hit a ti'n sgwennu cân er mwyn iddo fynd yn viral.

Ond lot o'r amser mae o bron fatha bod o'n springboard i artistiaid allu defnyddio hwnna fel platfform i hybu eu cerddoriaeth nhw so bo nhw'n gallu rhyddhau albym yn hwyrach lawr y lein.

Rhywun 'fatha Doja Cat er enghraifft… mae hi 'di mynd yn massive trwy TikTok.

Mae gen ti bobl fatha Billie Eilish. Dwi'n meddwl hi 'di'r artist cyntaf i gael dros 100 miliwn o streams ar bob un sengl sydd yn rhan o'i halbym hi. Dwi'n meddwl fod 'na dal werth mewn albyms yn sicr.

Yn sicr mae 'na le i albyms fel darn o gelfyddyd. Er fod y ffordd 'da ni'n gwrando i gerddoriaeth wedi newid, dwi'm yn meddwl fod y gwerthfawrogiad o pa mor werthfawr ydy albym wedi newid o gwbl. Mae o'n gampwaith. Mae 'na gymaint o waith a chrefft ac amser a cariad wedi mynd mewn i'r un peth 'ma.

Albym Joia!
Banana & Louie Records
Maen nhw'n codi calon a does dim byd gwell.
Un o hoff albyms Cymraeg Sian Eleri: Joia!

Mae'n anodd disgrifio faint mor bwysig mae cerddoriaeth wedi bod i fi yn y cyfnod yma. Mae cerddoriaeth wedi bod yn gysur i fi, mae o 'di bod yn gwmni i fi mewn adegau lle dwi'n teimlo'n rili unig. Dwi rili eisiau i artistiaid gario mlaen gwneud albyms. Maen nhw'n angenrheidiol i'n iechyd meddwl i!

Dwi'n meddwl yn sicr mae 'na ddyfodol i albyms. Dwi ddim eisiau nhw ddod i ben o gwbwl. Mae pobl fel fi, Mam a Dad, a Neiniau a Teidiau i gyd yn gwerthfawrogi nhw.

Mewn amser lle mae cerddoriaeth mor gyrraeddadwy, mae'n rili pwysig fod platfforms fatha Spotify ac Apple yn sichrau fod 'na le i bwysleisio fod 'na artist wedi rhyddhau albym yn hytrach na jysd sbio ar y top singles gan artist.

Mae 'na ddyletswydd arnyn nhw i helpu artistiaid achos mae patrymau gwrando pobl wedi newid. A mae o fyny iddyn nhw i wneud yn siŵr bo nhw'n gallu gwthio albyms allan a bod o ddim yn ddyletswydd ar y gwrandawyr i wneud yn siŵr fod nhw'n gwrando arnyn nhw. Mae 'na ddyfodol disglair iawn i albyms, a fedrai'm disgwyl gweld be' mae pobl yn rhyddhau yn y misoedd nesaf mewn amser mor heriol.

Does gen i ddim jyst un hoff albwm erioed. O ran albyms Cymraeg dwi 'di mwynhau fwyaf dros y misoedd diwethaf mae Joia! gan Carwyn Ellis a Melyn gan Adwaith. Dwi jysd yn dod nôl atyn nhw dro ar ôl tro. Maen nhw'n codi calon a does dim byd gwell.

O ran albyms Saesneg… y rhai dwi'n meddwl sy' 'di bod yn y meddwl ers blynyddoedd a byth 'di gadael fi a dwi byth yn mynd yn bored ohonyn nhw ydy No Need To Argue gan The Cranberries a Black Messiah gan D'Angelo.

Hefyd o ddiddordeb: