Apêl i beidio diarddel clwb pêl-droed carcharorion
- Cyhoeddwyd

Mae Carchar Prescoed yn gartref i tua 250 o garcharorion categori D - y categori lleiaf difrifol
Mae cannoedd o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw am i'r unig dîm pêl-droed yng Nghymru sydd â charcharorion fel chwaraewyr gael eu croesawu yn ôl i'w cynghrair.
Mae Clwb Pêl-droed Carchar Prescoed yn Sir Fynwy wedi chwarae yng Nghynghrair Canol Gwent ers dros 20 mlynedd, ond eleni maen nhw wedi'u hatal rhag ymuno.
Mae dau o gyn-chwaraewyr y clwb yn dweud y bydd yn cael effaith negyddol ar iechyd meddwl y carcharorion sy'n rhan o'r tîm.
Dywedodd swyddogion y gynghrair bod ganddyn nhw bryder bod yn rhaid i chwaraewyr ifanc o dimau eraill chwarae o fewn y carchar, a'i bod yn annheg nad ydy'r clwb yn gallu chwarae gemau oddi cartref.
Mae'r clwb yn apelio yn erbyn penderfyniad y gynghrair.

Pryder Chris Leslie ydy y bydd y penderfyniad yn cael effaith negyddol ar iechyd meddwl y chwaraewyr
Dywedodd Chris Leslie, 37, a Gavin Etchell, 39, wnaeth chwarae dros Garchar Prescoed am un tymor, fod cael bod yn rhan o'r tîm yn fwy na chwarae pêl-droed yn unig.
"Mae'n gwneud gwahaniaeth - yr unig gysylltiad chi'n ei gael ar wahân i'r carcharorion neu'r staff yw'r tîm arall," meddai Chris.
"Dyma'r cyfle cyntaf i chi ddangos eich bod chi'n barod i ailymuno â'r gymdeithas - mae'r staff yn edrych ar sut ydych chi'n ymddwyn gyda phobl eraill.
Ychwanegodd: "Dyna'r cyflawniad cyntaf chi'n ei gael cyn cael eich rhyddhau.
"Eich lles a'ch iechyd meddwl, mae'n rhywbeth i edrych ymlaen ato ar y penwythnos."

Dywedodd Gavin Etchell ei bod yn bwysig bod y carcharorion yn cael cyfle i chwarae
Ychwanegodd Gavin: "Ydy maen nhw wedi gwneud camgymeriadau ond fe ddylen nhw barhau i gael y cyfle hynny."
Dywedodd Jamie Grundy - cyn-hyfforddwr cymunedol gyda Manchester United, wnaeth dreulio blwyddyn yn astudio Clwb Pêl-droed Carchar Prescoed ar gyfer ei lyfr '90 Minutes of Freedom' - bod pêl-droed yn "rhan enfawr o fywyd yn y carchar".
"Mae'r carchar a'r gamp yn gwneud yr hyn y mae wedi'i ddylunio i'w wneud - atal aildroseddu a sicrhau bod yr unigolion hynny yn annhebygol o orfod mynd yn ôl i'r carchar," meddai.