Gwagio llyn yn costio miloedd i Gyngor Sir Caerffili
- Cyhoeddwyd

Chafodd y clwb pysgota ddim rhybudd fod y llyn am gael ei wagio
Mae clwb pysgota wedi ennill brwydr hir gyda Chyngor Sir Caerffili, ar ôl i'r awdurdod wagio llyn heb gymryd camau i ddiogelu'r pysgod oedd ynddo.
Daeth y frwydr gyfreithiol chwe mlynedd i ben yn Llys Sirol Caerdydd, lle cafodd y cyngor orchymyn i dalu dros £30,000 mewn iawndal i Gymdeithas Bysgota Cwm Rhymni a'r Cylch.
Mae'n debygol y bydd rhaid i'r awdurdod dalu degau o filoedd mewn costau cyfreithiol hefyd.
Clywodd y llys fod y cyngor wedi gofyn i gontractwyr wagio'r llyn ym Mharc Cwm Darran ger Bargoed yn 2013, er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw.
Dywedodd y gymdeithas bysgota - sy'n prydlesu'r llyn gan y cyngor - nad oedden nhw wedi cael gwybod am y gwaith ymlaen llaw.
Ar ôl gwagio'r dŵr, gwelodd pysgotwyr fod nifer o bysgod wedi cael eu sgubo ymaith i afon, a bod eraill wedi marw o ddiffyg ocsigen yn y mwd ar waelod y llyn.
'Achos yn glir o'r dechrau'
Dywedodd ysgrifennydd y gymdeithas, Jesse Pugh: "Fe syrthiodd niferoedd yr aelodaeth yn ddramatig ar ôl hynny. Aeth cyfanswm y tocynnau dyddiol i lawr o tua £4,000 y flwyddyn, i ddim, am nad oedd pysgod i'w cael yno."
Dywed y pysgotwyr eu bod wedi gofyn i'r cyngor am £10,000 yn 2014, er mwyn ail-stocio'r llyn, ond bod eu cais wedi cael ei wrthod.
Dyfarnodd barnwr yn y Llys Sirol yr wythnos diwethaf y dylai'r cyngor gymryd cyfrifoldeb am beth ddigwyddodd.
Ychwanegodd Mr Pugh: "Dwi'n drist iawn fod ein hawdurdod lleol ni wedi gwastraffu cymaint o arian. Roedd canlyniad yr achos yn eithaf clir o'r dechrau yn ein barn ni.
"Roedd y llyn yn wag, roedd nifer o bobl y pentref wedi gweld bod y llyn yn wag, ac eto roedd y cyngor yn mynnu bod digon o ddŵr yno i gynnal bywyd y pysgod."
Dywedodd Andrew Skelton, cyfreithiwr o'r gymdeithas Fish Legal, a oedd yn cynrychioli'r clwb pysgota, ei fod yn falch fod penderfyniad y llys yn cefnogi fersiwn y pysgotwyr o'r hyn a ddigwyddodd yn 2013, er eu bod wedi cael eu cyhuddo yn y gwrandawiad o ddweud celwydd.
"Nid ydym yn gwybod pam nad oedd y cyngor yn syrthio ar eu bai a setlo'r achos yn llawer cynt, ond mi wn fod y clwb yn falch eu bod wedi cael cyfiawnder o'r diwedd."
Mae'r BBC wedi gwneud cais am sylw gan Gyngor Caerffili.