5 marwolaeth yn rhagor a 979 achos newydd
- Cyhoeddwyd

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi bod 979 o achosion newydd o coronafeirws wedi eu cadarnhau yng Nghymru dros y 24 awr ddiwethaf.
Cafodd pump o farwolaethau yn rhagor eu cofnodi hefyd.
Mae cyfanswm yr achosion sydd wedi eu cadarnhau yng Nghymru bellach yn 34,005, gyda 1,703 o farwolaethau'n gysylltiedig â'r feirws.
O'r achosion newydd, roedd 175 yng Nghaerdydd, 120 yn Rhondda Cynon Taf, 86 yn Abertawe a 79 ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Roedd 82 o'r achosion yn bobl sydd ddim yn byw yng Nghymru, gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru'n dweud mai myfyrwyr o Gymru mewn prifysgolion y tu allan i Gymru yw mwyafrif y rhain.
Yn ogystal, roedd 52 achos yng Nghastell-nedd Port Talbot a 51 yr un yn Sir y Fflint a Chaerffili.
O safbwynt nifer yr achosion am bob 100,000 o'r boblogaeth, mae Caerdydd gyda 236.8 - yr uchaf yng Nghymru o ddigon.
Mae Pen-y-bont (183.6), Rhondda Cynon Taf (176.2), Wrecsam (173.6) a Merthyr Tudful (170.7) hefyd yn uchel iawn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2020

- Cyhoeddwyd14 Hydref 2020

- Cyhoeddwyd13 Hydref 2020
