Taith 3,000 milltir neges mewn potel o Ganada i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Y botel gyda'r llythyr oddi mewnFfynhonnell y llun, Amanda Tidmarsh
Disgrifiad o’r llun,

Y botel win, gyda'r llythyr oddi mewn, a olchodd i'r lan ar draeth

Mae neges mewn potel a deithiodd 3,000 o filltiroedd o Ganada wedi cael ei darganfod ar draeth ym Mro Morgannwg.

Roedd Amanda Tidmarsh, o Frynnau, yn mynd â'i dau gi am dro ar hyd y lan yn Aberogwr pan welodd y botel wedi ei gorchuddio â gwymon, cregyn llong a chregyn gleision.

Dywedodd ei bod "wedi cyffroi" o'i ddarganfod, gan ei bod yn arfer tynnu coes perthnasau ei bod "wastad yn chwilio am drysor".

Mae hi'n aros am ateb gan y pysgotwr crancod a daflodd y botel i'r môr yn Nhachwedd 2020.

Amanda TidmarshFfynhonnell y llun, Amanda Tidmarsh
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Amanda Tidmarsh o hyd i'r botel tra'n mynd â'i labradoodle, Daisy a'i Jack Russell, Ollie am dro

Dywedodd Ms Tidmarsh: "Pan wnes i ffeindio fe ro'n o'n meddwl bod e'n hyfryd - cyrraedd yr holl ffordd yma heb ei dorri. Meddyliais bod yna rywbeth tu mewn iddo - mae fel trysor."

Arhosodd nes i'w mab gyrraedd adref cyn gwneud dim gyda'r botel, oherwydd roedd "yn rhy sbesial i'w agor ar ben fy hun".

"Doeddwn i methu credu'r peth, roedd yn wirioneddol arbennig. Nes i decstio fy mab arall a fy merch ac roedden nhw wedi cyffroi gymaint â fi. Mae'n anghredadwy.

"Rwy' wastad yn tynnu coes mam fy mod yn chwilio am drysor o blith y gwymon ac fe ddois i o hyd i rywbeth."

llythyr y botelFfynhonnell y llun, Amanda Tidmarsh
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r llythyr yn y botel yn datgan ble a phryd gafodd ei thaflu i'w môr

Mae'r llythyr yn y botel dan enw pysgotwr crancod o'r enw John Graham, ac mae'r cynnwys cyfeiriad ebost er mwyn i'r sawl a'i ddarganfyddodd allu gwneud cysylltiad.

Mae'n ymddangos bod criw'r un llong wedi danfon sawl neges gan fod potel arall wedi golchi i'r lan yng Ngogledd Iwerddon.

"Roedd wedi ei selio'n dda a thu mewn roedd yna fag zip lock gyda nodyn wedi ei rholio tu mewn," medd Ms Tidmarsh, sy'n aros yn eiddgar am ateb gan Mr Graham.

Yn y cyfamser, mae'r botel yn cael ei chadw nhŷ gwydr ei chartref yn Rhondda Cynon Taf.