Cannoedd yn ailddechrau'r Parkrun wedi bron 18 mis
Am y tro cyntaf mewn 18 mis mae pobl wedi gallu cymryd rhan mewn digwyddiadau Parkrun ar draws Cymru gan redeg neu gerdded am bum cilomedr yn un o'r parciau lleol.
Bu'n rhaid dod â'r digwyddiadau poblogaidd i ben ar ddechrau'r pandemig ond maen nhw wedi gallu ailddechrau wedi i'r rhan fwyaf o'r cyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru gael eu codi yn gynharach yn y mis.
Credir bod tua 80% o'r rasys arferol yng Nghymru wedi cael eu cynnal ddydd Sadwrn - ni fu'n bosib mewn ambell leoliad am wahanol resymau.
Er gwaetha'r glaw, fe wnaeth bron i 500 o bobl gymryd rhan mewn Parkrun yng Nghaeau Pontcanna, Caerdydd fore Sadwrn.
Yn eu plith, roedd John Gillibrand, 60, a hynny am y tro cyntaf erioed.