Dyn wedi'i achub ar ôl disgyn wrth ddringo Tryfan

  • Cyhoeddwyd
Tryfan yn EryriFfynhonnell y llun, Terry Hughes/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tryfan yn adnabyddus fel mynydd serth ac heriol i'w ddringo

Fe wnaeth dyn ddioddef anafiadau i'w ben ar ôl disgyn 30 troedfedd (9m) wrth ddringo Tryfan yn Eryri ddydd Sadwrn.

Ar y pryd roedd yn cerdded gyda'i dad, wnaeth gysylltu gyda'r gwasanaethau brys gan ddweud fod ei fab yn colli ymwybyddiaeth.

Cafodd 14 o achubwyr mynydd Dyffryn Ogwen, yn ogystal â hofrennydd achub, eu galw i'r digwyddiad ar ochr ogleddol y mynydd.

Daeth hynny wedi iddyn arall orfod cael ei achub hefyd ddydd Sadwrn ar ôl torri ei goes wrth gerdded ar lwybr Llyn Anafon.

Cafodd achubwyr a hofrennydd eu hanfon i'w helpu yntau, a'i gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor i dderbyn triniaeth.