
Fe wnaeth y cwpl symud i Morvil Cottage yn Sir Benfro o Loegr yn 2013
Mae cwest wedi clywed fod dyn 81 oed o Sir Benfro wedi mygu ei wraig gyda bag plastig cyn lladd ei hun ym mis Chwefror eleni.
Fe wnaeth David Arnold ladd ei wraig Christina Arnold, 71, yn eu bwthyn ym mhentref Morfil, rhwng Abergwaun a Maenclochog.
Cafodd eu cyrff eu darganfod ar 16 Chwefror wedi i'r Post Brenhinol dderbyn llythyr gan Mr Arnold.
Yn y llythyr hwnnw roedd yn dweud ei fod am ladd ei wraig ac yna lladd ei hun.
Clywodd y cwest fod y cwpl wedi symud i'r ffermdy diarffordd o Loegr yn 2013, ac roedd ganddyn nhw bedwar o blant a chwech o wyrion ac wyresau.
Roedd Mr Arnold yn dioddef o orbryder ac yn sensitif i sŵn, tra bod ei wraig wedi bod yn delio ag iselder.

Mae'r bwthyn ar hyd lôn fferm, ac nid oes modd ei weld o'r ffordd
Cafodd yr heddlu eu galw am 21:30 ar 16 Chwefror gan reolwr y Post Brenhinol yn yr ardal, wedi iddyn nhw dderbyn y llythyr gan Mr Arnold.
Toc cyn 23:00 aeth yr heddlu i mewn i'w bwthyn trwy'r drws ffrynt, oedd ddim wedi'i gloi.
Fe ddaethon nhw o hyd i gyrff y ddau yn y tŷ, ynghyd â dau lythyr - un o'r rheiny â manylion personol am y bwthyn a materion eraill, a'r llall gan Mr Arnold yn dweud ei fod wedi lladd ei wraig a'i fod ar fin lladd ei hun.
Clywodd y cwest nad oedd unrhyw dystiolaeth bod rhywun arall yn rhan o'r digwyddiad.
'Eithriadol o drasig'
Yn ei adroddiad i'r cwest dywedodd y patholegydd Derek James nad oedd awgrym bod Mr a Mrs Arnold wedi bod yn ymladd.
Dywedodd y crwner Paul Bennett nad yw hi'n gwbl eglur pam fod Mr Arnold wedi penderfynu lladd ei hun a'i wraig.
Ychwanegodd fod y cwpl wedi marw mewn amgylchiadau "eithriadol o drasig a gofidus".
Daeth i'r casgliad fod Mrs Arnold wedi cael ei lladd yn anghyfreithlon, ac mai achos marwolaeth Mr Arnold oedd hunanladdiad.