
"Mae 'na ddewis pan ti'n tyfu lan mewn ardal fel Trelái - ac mae mor anodd i fod yn llwyddiannus ond hefyd yn boblogaidd gyda'r bois drwg. Mae'r llinell yn denau iawn pan ti'n tyfu lan achos mae pob person ifanc eisiau bod yn boblogaidd.
"Yn Nhrelái un dewis drwg a ti wedi colli popeth."
Dyma eiriau'r cyflwynydd teledu a radio Jason Mohammad, wnaeth dyfu i fyny mewn stad gyngor yn y brifddinas, yn un o ardaloedd mwya' difreintiedig Cymru.
Roedd Jason yn ei arddegau pan ddigwyddodd 'terfysgoedd bara' Trelái yn 1991. Bu sawl diwrnod o drais yn yr ardal yn dilyn dadl rhwng perchnogion siop gan effeithio'n fawr ar y gymuned glòs ac arno fe'n bersonol.
Dywedodd: "Fel bois a merched ifanc yn Nhrelái, oedden ni'n meddwl bod ni'n byw mewn byd gwahanol i bawb arall. Roedd y 'terfysgoedd bara' yn ran o hynny - roedd identity ni'n wahanol i bawb arall yng Nghaerdydd.
"'Oedden ni'n teimlo fel pan oedden ni'n ifanc, ni ar ben ein hun. Does neb yn edrych ar ôl ni."
Mae gyrfa'r cyflwynydd wedi ei gymryd o'r stad gyngor i'r stiwdios teledu ac mae'n cofio'r digwyddiad mewn rhaglen arbennig ar S4C, DRYCH: Jason Mohammad: Trelái, Terfysg a Fi.
Y terfysg
Dywedodd am y noson pan ddechreuodd yr helynt: "1991 oedd y flwyddyn ac roeddwn i'n 17 mlwydd oed.
"Dwi'n cofio'r noson yn iawn - ro'n ni'n cerdded adref o barti ac nid oedd yr heddlu'n fodlon i ni gael tacsi yn ôl dros Bont Trelái gan eu bod eisiau cadw pobl allan.
"O'n i'n 17 ac yn teimlo'n nerfus. Weithie ti'n gweld problemau ar y stryd pan ti'n byw mewn stad gyngor - pobl yn ymladd a stwff fel 'na.
"Ond mae gweld terfysg ar y strydoedd le chi'n byw yn rili, rili boenus.
"Nid un nos o broblemau oedd hi - roedd hi'n bedair noson. Roedd pobl yn gyrru ceir at yr heddlu ac yn taflu bomiau petrol."

Siop Abdul Waheed - ffrae yma wnaeth sbarduno'r trais
Erbyn heddiw, 30 mlynedd wedi'r terfysg, mae Jason yn wyneb adnabyddus ar y teledu, yn cyflwyno Final Score ac yn ddiweddar y Gemau Olympaidd.
Ond mae'n dweud gallai ei fywyd fod wedi dilyn trywydd gwahanol iawn, yn enwedig gan fod rhai o'i ffrindiau yn yr ardal yn rhan o'r terfysgoedd: "Beth fyddai wedi digwydd os byddai'r bois wedi dweud ar nos Sul, ni ddim yn mynd i Canton i gael cwpl o beints heno, ni'n mynd lan i'r terfysgoedd - pwy a ŵyr beth fyddai wedi digwydd os fyddai'r heddlu wedi pigo ni lan?
"Mae'n hanes pwysig iawn achos roedd y terfysgoedd yn dweud rhywbeth am Gaerdydd, am Gymru ac am Brydain yn yr 1990au.
"Roedd lot o bobl yn ddiwaith, lot ddim yn hoffi'r awdurdodau, lot o bobl ddim yn hapus gyda'r cyfryngau. Felly roedd y terfysgoedd yn adwaith i'r heddlu, i'r llywodraeth a'r cyfryngau.
"Roedd yn rhyw fath o ymateb yn erbyn awdurdod a'r teimlad fod neb yn gwrando arno ni. Y terfysg oedd y canlyniad.
"Ac maen nhw dal yn cael yr un problemau yn Nhrelái ag oedden nhw yn 1991."
Crefydd
Mae Jason yn diolch i'w grefydd Fwslemaidd am ei helpu i gadw allan o'r helynt: "Falle o'n i'n gwybod y rights a wrongs o beth i 'neud a dyna pam o'n i ddim yn ymuno gyda'r bois eraill.
"'Oedd 'na rhyw balans o safbwynt fy mywyd Mwslemaidd, fy mywyd Cymraeg a'r dyhead i fod yn llwyddiant ac i weithio'n galed iawn yn yr ysgol.
"Pan o'n i'n 11 o'n i'n mynd i'r mosg i neud gwersi ac astudio'r Koran ac ar y pryd o'n i'n teimlo mod i'n colli mas - a'r bois eraill yn mynd i watcho'r Cup Final neu'n chwarae pêl-droed.
"A phob dydd Sadwrn a ddydd Sul o'n i'n mynd i'r mosg yn Butetown ac o'n i bach yn resentful a'n meddwl 'mae hwn yn annheg' - ond pan dwi'n edrych yn ôl ar sut mae bywyd wedi bod, dwi mor lwcus i 'neud beth dwi'n 'neud a chael teulu biwtiffwl a hyfryd.
"A nawr dwi'n meddwl, roedd rhywun lan grisiau yn dweud, 'na mae hyn yn gywir, rhaid i ti neud hyn'."
Cofio Terfysg Bara Trelái, 2 Medi 1991
Balchder
Mae Jason yn ymfalchïo yn ei fagwraeth yn Nhrelái ac yn credu fod yr ardal wedi siapio'i gymeriad a'i weithgarwch: "Mae'r ffaith mod i'n gweithio'n galed yn dod o ardal Trelái - o'n i'n tyfu lan, doedd dim lot gyda ni. O'n i'n gweld pobl heb arian ac heb waith.
"Ond pan oedden nhw'n gweithio 'oedden nhw'n gweithio'n rili, rili galed.
"Job cyntaf fi oedd gwerthu caws ar y deli counter yn Safeway.
"Ers 16 yr unig beth dwi wedi 'neud yw gweithio - mewn archfarchnad a nawr yn y byd teledu. Mae'r work ethic wedi dod o ble dwi wedi tyfu lan. Dwi wedi bod rownd pobl balch iawn oedd yn gweithio'n galed iawn.
"Tro nesa' chi eisiau barnu rhywun o stad gyngor, meddyliwch eto.
"Maen nhw'n bobl gyda'r un meddwl â ni, maen nhw eisiau gwaith ac arian a stwff ar gyfer y plant.
"Ac maen nhw'n bobl gyda'r un gobaith â ni."

"Os ti'n dod o Drelái weithiau mae pobl yn labelu ti"
Stigma
Mae Jason, sy'n parhau i fyw yng Nghaerdydd gyda'i deulu, yn credu fod stigma'r gorffennol yn dal i amharu ar ddyfodol pobl ifanc Trelái heddiw: "Un peth sy'n trwblu fi nawr, 30 mlynedd ar ôl y terfysgoedd, yw fod pobl dal yn siarad am fod pobl yno yn achosi trwbl.
"Os dwi'n mynd mewn car yn Llundain, Manceinion neu Gaerdydd ni'n siarad am o ble dwi'n dod ac weithie mae'r gyrrwr yn dweud: 'I'll look after my watch then, make sure you don't nick my watch'.
"Os ti'n dod o Drelái weithiau mae pobl yn labelu ti.
"Mae gen ti swydd da, tŷ neis a char neis ond dwi'n teimlo bod fi dal yn cario'r badge.
"A dwi mor falch bod fi'n dod o Drelái."
Yr iaith Gymraeg
Mae'r cyflwynydd yn cydnabod ei ddyled at ei athrawon yn Ysgol Uwchradd Glyn Derw ac yn arbennig ei athrawes Gymraeg, Falmai Griffiths, wnaeth annog Jason i barhau gyda'r iaith ac i astudio am radd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe.
Dywedodd Jason: "Mae astudio Cymraeg wedi newid fy mywyd.
"Heb hwnna fydden i ddim yn cyflwyno Match of the Day. Dwi yn y BBC achos o'n i'n siarad Cymraeg ac wedyn yn gweithio ar Wales Today a Radio Wales i 'neud enw i fy hun.
"Dyna pam o'n i'n 'neud gradd yn y Gymraeg - dyna pam dwi'n siarad Cymraeg oherwydd Falmai a Mrs Gaskell, fy hen athrawes Saesneg - oedden nhw'n sbotio rhywbeth yn fy mywyd i ac roedd Falmai wedi spotio'r passion am y Gymraeg.
"Roedden nhw'n ffantasig.
"Dwi'n dweud hyn i fy mhlant achos maen nhw'n mynd i ysgolion Cymraeg. Mae pawb yng Nghymru'n gwybod mod i'n caru'r iaith felly pan mae'r plant yn siarad am y ffaith mod i wedi 'neud gradd yn y Gymraeg, dwi dal yn teimlo'r passion am y Gymraeg."

Gwyliwch DRYCH: Jason Mohammad: Trelái, Terfysg a Fi ar S4C nos Sul, 29 Medi am 9.00.