'Angen i'r banc ailedrych ar y penderfyniad'
"Bydd hyn yn effeithio ar sawl mudiad fel eisteddfodau, capeli, papurau bro - mae wedi bod yn ddeunaw mis anodd i'r mudiadau hyn," meddai Megan Jones Roberts, Cadeirydd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru.
"Ma' fe'n mynd i 'neud lot o wahaniaeth - mae rhai digwyddiadau ond yn cael eu cynnal unwaith y flwyddyn ac ond yn defnyddio'r banc wythnos cyn y digwyddiad ac wythnos wedi'r digwyddiad.
"Ro'n i'n cael digon o drafferth fel o'dd hi pan yn newid swyddogion, ac yn y blaen. Mae'r eisteddfodau 'ma wedi 'neud colled yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn barod heblaw gorfod talu am hyn."