
Stiw cig eidion wedi ei goginio yn araf yn y popty pwyll
"Mae'r popty pwyll yn berffaith ar gyfer yr hydref a'r gaeaf. Mae'n dymor grêt i droi at bethau arafach, mwy hamddenol a chysurus yn y gegin."
Gyda'r gaeaf a'r tywydd oer ar fin cyrraedd, mae tymor y salad a'r barbeciw ar ben, a thro'r caserol a'r cawl ydi hi rŵan.
Ydych chi wedi mynd i chwilota am eich slow cooker o gefn eich cypyrddau eto? Wel dyma'r amser i chi wneud hynny a phwy well nag Alison Huw i'n rhoi ni ar ben ffordd.
Mi fuodd yr arbenigwraig bwyd ar Bore Cothi ar BBC Radio Cymru i roi ychydig o ysbrydoliaeth i ni ar sut i wneud y mwyaf o'r slow cooker, neu'r "popty pwyll" fel mae hi'n ei alw! Darllenwch gynghorion doeth Alison.

Alison Huw yn sgwrsio ar Bore Cothi

'Pâr arall o ddwylo'
Mae'r popty pwyll yn berffaith ar gyfer yr Hydref a'r gaeaf. Mae'n dymor grêt i droi at bethau arafach, mwy hamddenol a chysurus yn y gegin.
Beth sydd yn dda am bopty pwyll yw y gallwch chi dwlu popeth mewn iddo a gadael iddo wneud y gwaith. Mae e fel cael pâr arall o ddwylo yn y gegin a thra rydyn yn gadael hwnna i goginio gallwch eistedd o flaen y tân gyda'ch hoff lyfr a'ch traed lan.
A hefyd does dim lot o olchi llestri 'da chi!

Ar ôl paratoi, gallwch roi eich traed lan!
'Digon o hylif'
Yr hiraf chi'n coginio pethau, y gorau oll ond beth sydd yn hollol allweddol gyda'r math yma o goginio yw bod 'na ddigon o hylif.
Meddyliwch am bethau fel casseroles, cawliau a phethau fel ysgwydd porc neu gig oen. Mae'n ffordd economaidd o goginio ond hefyd chi'n sôn am y pethe hyfryd 'ma sydd yn mynd i gwympo oddi ar yr asgwrn ar ôl i chi goginio fe am amser hir.

Stiw cig oen wedi ei goginio yn y popty pwyll
Felly'r hiraf i chi goginio'r gorau oll ond i chi gadw golwg ar y lefel o ddŵr oherwydd unwaith mae'n sychu mae hi ar ben arnoch chi!
Peidiwch â chael eich temtio i dynnu'r clawr ychwaith. 'Ma fe yno am reswm er mwyn cadw'r anwedd i mewn ac er mwyn sicrhau fod y blasau i gyd yn mynd trwy bopeth a bod blas dwfn cyfoethog gyda chi. Dydych chi ddim yn cael y mathau yma o flasau wrth ffrio neu barbeciwio.

Cadw'r anwedd dŵr i mewn gyda chaead
Toriadau rhad o gig
Mae'n berffaith i goginio toriadau rhad o gig - pethau fel ysgwydd neu asennau cig eidion. Mae cig eidion short-rib yn berffaith. Mae'n ddarn o'r asen sydd yn wyn iawn ac yn berffaith oherwydd mae angen yr amser arno fe i goginio.

Asennau byr cig eidion wedi eu coginio mewn stowt
Os wnewch chi roi e mewn gyda sinamon a phrŵns mae melyster y prŵns a gwres y sinamon yn creu rhywbeth bendigedig. Ychwanegwch ychydig o win coch a stoc a digon o berlysiau coediog fel saets, rosmari, teim a mi fydd e'n blasu'n hyfryd.
Yn syml iawn rydych yn gadael iddo goginio am o leiaf chwech awr neu dros nos. Erbyn hynny mae blas yr asgwrn yn mynd drwy'r saws felly be chi'n cael yw blas bendigedig trwyddo i gyd.
Yn yr un modd gallwch roi ysgwydd cig oen ynddo gyda seleri, bayleaf, winwnsyn, moron neu bethau fel swêds.

Ychwanegwch ddigonedd o lysiau tymhorol a pherlysiau
Llysieuol
Os ydych chi'n llysieuwr, rydyn ni'n dod mewn i'r tymor nawr ble mae pwmpenni yn berffaith. O'r un teulu daw sgwash cnau menyn hefyd sy'n berffaith. Mae'r rheiny yn gweithio yn dda iawn os torrwch nhw mewn darnau eithaf mawr a defnyddio tomatos tynn, ffa kidney, a digon o domatos a halen a phupur.

Cawl gwygbys a sgwash cnau menyn wedi ei goginio yn y popty pwyll
Ragu a Bolognaise
Mae pethau eraill fel ragu's a bolognaise yn gweithio yn arbennig o dda hefyd. Unwaith eto, rhowch nhw yn barod yn y bore ac erbyn i chi ddod yn ôl o'r gwaith bydd yr arogl yn bobman a bydd eich te yn barod!

Rhowch gynhwysion y bolognaise yn y popty pwyll ben bore a'i fwynhau gyda'r nos
Gellyg
Mae modd coginio gellyg yn y popty pwyll hefyd, coeliwch neu beidio! Un peth am ellyg yw eu bod nhw unai yn galed neu yn feddal, dydyn nhw byth yn berffaith!
Ond be sydd yn grêt yw, os oes gennych chi rai sydd braidd yn galed, gallwch chi eu rhoi nhw yn y popty i'w potsio nhw gyda bach o win gwyn, sinamwn, croen lemwn neu oren, pedwar llwy fwrdd o siwgr a digon o ddŵr i'w gorchuddio.
Gallwch chi adael rhai wedyn i ffrwtian tan mae cyllell yn gallu mynd trwyddon nhw'n rhwydd. Mae'n berffaith gyda hufen neu siocled fel pwdin neu gydag iogwrt neu uwd fel brecwast. Iym!

Beth am roi cynnig ar botsio gellyg yn y popty pwyll?