
Mae nifer o gwmnïau betio yn defnyddio'r data personol
Mae 850 o bêl-droedwyr proffesiynol wedi dechrau ar her gyfreithiol yn erbyn cwmnïau sy'n casglu data personol a'i ddefnyddio'n gamarweiniol i wneud arian.
Cyn-reolwr Clwb Pêl-droed Caerdydd, Russell Slade sy'n arwain yr ymgyrch - mae'n galw am ffi flynyddol i chwaraewyr am eu data.
Maen nhw hefyd eisiau iawndal am fasnachu eu data perfformiad dros y chwe blynedd diwethaf.
Fe allai'r cyfan newid yr holl ddiwydiant lle mae cwmnïau'n cyfnewid arian am wybodaeth ar berfformiadau ac ystadegau chwaraewyr.
Mae "llythyrau cyn gweithredu" wedi cael eu hanfon at 17 o gwmnïau mawr, gan honni eu bod yn camddefnyddio data.
Beth yw sail yr achos?
Dywed tîm cyfreithiol Slade fod y ffaith nad yw chwaraewyr yn derbyn unrhyw daliad am ddefnyddio eu data heb drwydded yn mynd yn groes i reolau Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a gafodd eu cryfhau yn 2018.
O dan Erthygl 4 o'r GDPR, mae "data personol" yn cyfeirio at ystod neu wybodaeth y gellir ei hadnabod, fel priodoleddau corfforol, data lleoliad neu wybodaeth ffisiolegol.
Mae'r BBC yn deall bod 17 o brif gwmnïau betio, adloniant a chasglu data wedi'u targedu.
Ond mae Grŵp Data a Thechnoleg Chwaraeon Byd-eang Slade wedi tynnu sylw at fwy na 150 o dargedau y mae'n credu sydd wedi camddefnyddio data.
'7,000 darn o wybodaeth am un chwaraewr'
Er efallai na fydd derbyn ffi am ddefnyddio eu data yn cael llawer o effaith ar enillwyr uchel yr Uwch Gynghrair yn Lloegr, mae Slade yn teimlo'n gryf y byddai'r rhai sy'n is i lawr y pyramid, yng ngêm y dynion a'r menywod, yn gweld budd mawr.
"Mae'n anhygoel lle mae'n cael ei ddefnyddio," meddai Slade.
"Ar un chwaraewr, a dwi ddim yn siarad am chwaraewr yn yr Uwch Gynghrair na hyd yn oed chwaraewr yn y Bencampwriaeth, roedd yna ryw 7,000 o ddarnau o wybodaeth am un chwaraewr unigol mewn clwb pêl-droed cynghrair is.

Roedd Russell Slade yn rheolwr ar Gaerdydd rhwng 2014 a 2016
"Mae yna gwmnïau sy'n cymryd y data hwnnw ac yn prosesu'r data hwnnw heb gydsyniad unigol y chwaraewr hwnnw.
"Rhan fawr o'n taith fu edrych ar yr ecosystem honno a chynllwynio lle mae'r data hwnnw'n cychwyn, pwy sy'n ei brosesu, lle mae'n gorffen ac mae hynny'n beth byd-eang go iawn.
"Mae [angen] gwneud pêl-droed - a phob math o chwaraeon - yn ymwybodol o'r goblygiadau a'r hyn sydd angen ei newid."
Yr hawl i 'ddweud ein dweud'
Mae'r BBC yn deall hefyd bod trafodaethau eisoes ar y gweill mewn chwaraeon proffesiynol eraill i ddwyn achos cyfreithiol posibl ynghylch masnachu data.
Dywedodd cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru, Dave Edwards - un o'r chwaraewyr y tu ôl i'r ymgyrch - ei fod yn gyfle i chwaraewyr gymryd mwy o reolaeth am eu data personol.
Ar ôl gweld sut mae data wedi dod yn rhan allweddol o'r gêm fodern, mae'n dweud bod yn rhaid i chwaraewyr gael hawl i wybod sut y mae data amdanynt yn cael ei ddefnyddio.

Mae David Edwards bellach yn chwarae i'r Bala yn y Cymru Premier
"Po fwyaf dwi wedi edrych i mewn iddo ac rydych chi'n gweld sut mae ein data'n cael ei ddefnyddio, yr holl wahanol sefydliadau sy'n ei ddefnyddio, rydw i'n teimlo y dylen ni gael dweud ein dweud am bwy sy'n cael ei ddefnyddio," meddai.
"Byddai unrhyw un arall yn y byd yn cael dweud hynny.
"Pe byddech chi mewn swydd arall, pe byddech chi'n athro, cyfreithiwr a bod y math hwn o fanylion yn cael eu pasio o amgylch eich maes gwaith - fyddai'r person yna ddim yn hapus.
"Dwi ddim yn credu ein bod ni, fel unigolion yn wahanol i hynny."

Dywed Nic Parry y bydd y cwmnïau mawr yn "ymladd hwn yr holl ffordd"
Yn ôl y barnwr a'r sylwebydd pêl-droed, Nic Parry, fe fydd y cwmnïau mawr yn gyndyn iawn i ildio i'r ymgyrch.
"Mae hyn wedi bod yn cyniwair am ryw ddwy flynedd," meddai wrth raglen Dros Frecwast Radio Cymru.
"Mae'r chwaraewyr wedi sylweddoli gwerth y data yma, dydyn nhw ddim yn cael ceiniog am y data 'ma sy'n cael ei werthu gan gwmnïa' mawr - mae'n ddiwydiant anferth.
"Ma'r prosiect yn ymgyrch i ddod ag iawndal dros gyfnod o chwe blynedd - y rheswm am hynny ydy gewch chi ddim dod ag achos sy'n hŷn na chwe blynedd.
"Be' ydy data personol? Dadl y cwmnïa' mawr sy'n mynd i fod yn ymladd hwn yr holl ffordd, coeliwch fi, [ydy fod y] wybodaeth allan yna, dydy o ddim yn breifat. Os ewch chi i gêm, gewch chi weld faint o dacls 'nath Joe Allen... felly dydy o ddim yn disgyn o dan warchodaeth y ddeddf."