'Llwyth o ffactorau' wrth benderfynu ar gael plant

Mae nifer y genedigaethau yng Nghymru ar ei isaf ers 100 mlynedd ac mae'r gyfradd yma yn is na chyfartaledd Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Undeb Ewropeaidd.

Mae Katie Baskerville, 30 o Ddeiniolen yng Ngwynedd, yn awdur llawrydd sydd bellach yn byw ym Mryste.

Dydy hi heb gael plentyn eto, a dywedodd wrth Dros Frecwast bod "llwyth o ffactorau" ynghlwm â'r penderfyniad.