
Yn ei raglen ddogfen ddiweddaraf, SOBRI mae'r cyfarwyddwr Joseff Morgan o Landeilo yn adrodd stori ddirdynnol dyn ifanc sydd yn ceisio dianc caethineb.
Cawn ein cyflwyno i Dŷ Penrhyn ar Ynys Môn, sef canolfan i helpu pobl sydd yn delio a dibyniaeth ar alcohol a chyffuriau.
Ar ôl blynyddoedd o fod yn gaeth, mae Dewi o Lanfairpwll wedi troi at y ganolfan adferiad am gymorth ac yn y ddogfen arbennig o Hansh GRID gan ITV mae'n rhannu ei siwrna' ar gamera.
Mae mynd i'r ganolfan yn fater o aros yn fyw iddo. "Tro yma rownd roedd 'na ddau opsiwn," meddai, "either cario mlaen a marw, neu dwi'n dewis recovery a newid bywyd fi yn completely."
"Newid y ffordd oni'n teimlo"
Drwy stori Dewi ac o du fewn i waliau Tŷ Penrhyn cawn ddod i ddeall yr heriau sy'n wynebu nifer fawr o bobl yng Nghymru, sef dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol.
Mae'r rhaglen yn taflu goleuni ar fater cymhleth sy'n rhywbeth sydd yn gyfarwydd mewn nifer o ddogfennau Joseff, 35.
Meddai Dewi, 27 yn SOBRI: "Addiction i fi ydi time out of mind. Be bynnag oni'n gwneud oni'n chwilio am rwbath oedd am newid y ffordd oni'n teimlo ar y pryd.

Dewi yn ei stafell yn Nhŷ Penrhyn
"Mae'r llun mae pobl efo o addict yn reit blaen - maen nhw'n gweld pobl ar y stryd, maen nhw'n gweld pobl yn dwyn ac yn gweld pobl mewn stadau difrifol.
"Ond be dydi nhw ddim yn gweld ydi pobl sydd heb di cyrraedd y point yna eto. Ond dyna lle fyddan ni yn cyrraedd os da ni ddim yn stopio."

Y cyfarwyddwr Joseff Morgan
Cryfder Cymuned
O fewn Tŷ Penrhyn cawn gipolwg ar straeon eraill sy'n rhannu profiad Dewi.
"Mae Tŷ Penrhyn yn gymeriad yn ei hun yn y stori yma," meddai Joseff Morgan, "gan ei fod e yn le lle mae pobl yn gallu helpu ei gilydd. Mae defnyddio rhywbeth mor syml a recovery centre yn ddrych i ni feddwl yn well am sut ni'n gallu gwella cymdeithas.
"Gyda SOBRI ro'n i rili eisiau dangos cryfder cymuned. Oherwydd mae hwnna yn rhywbeth sydd yn werthfawr i bawb roeddwn yn siarad gyda pan oni'n gwneud y gwaith ymchwil.

Cymuned Tŷ Penrhyn
"Mae'n rhoi rhywbeth i ni ddysgu ganddo fe, does dim angen i ni fynd trwy recovery process i werthfawrogi pwysigrwydd cymuned.
"Ond drwy hwn hefyd ti'n gallu gweld effaith budget cuts a lle mae'r arian yn mynd a'r pethau ddylse gael lot o fuddsoddiad yn cael ei golli."
Cwestiynu rhagfarnau
Daw'r rhaglen ar gefn nifer o ddogfennau gan Joseff sy'n ein tywys i gorneli anghyfarwydd yng Nghymru gan godi cwestiynau am faterion cymdeithasol a cheisio adlewyrchu ein rhagfarnau fel pobl.
Rydyn ni wedi cael ein cyflwyno i rapiwr ifanc o stad gyngor Maesgeirchen ym Mangor sy'n cael ei achub gan gerddoriaeth, i fywyd Mwslim ac islamaffobia, i berson o Ben y Groes yn wynebu hiliaeth, i ddyn sy'n poeni am ddelwedd corff ac i ferch yn y byd gemau fideo.
"Y prif fwriad yw cwestiynu rhagfarn cymdeithas," meddai Joseff.
"Fi wastad yn dechrau gan feddwl beth yw rhagfarnau cymdeithas ar bwnc. Falle rhywbeth ni'n meddwl ni'n gwybod ond dydyn ni wirioneddol ddim yn gwybod dim am y peth.
"Y bobl yw'r drws i ni ddod i ddeall rhain."

Ben o Maesgeirchern, Bangor gafodd ddihangfa drwy ysgrifennu caneuon Grime
Cymhleth
Drwy ei raglenni mae Joseff yn dysgu llawer iawn am agweddau cymdeithas at faterion sydd yn bodoli o'n cwmpas o hyd ac ym mhob man. Wrth wneud SOBRI mae o wedi dod i ddeall problem mae nifer fawr o bobl yn delio ag o.
"Dwi di dysgu cymaint am fy hun yn gwneud SOBRI," meddai. "Dwi erioed wedi dysgu cymaint am fy hun trwy fy ngwaith fel hyn o'r blaen."
"Roedd e'n agoriad llygad i fi. Oni jest yn gweld pa mor wael ry'n ni gyd am guddio o'n gwendidau achos step gyntaf y bobl yma i gyd yw i gyfaddef ei hunain y gwendidau sydd yn gyrru'r broblem."
"Roedd eistedd mewn yn yr AA meetings a gweld pa mor agored oedd pobl yn fraint. Ni'n cwato stwff shwt gymaint, a falle mae'n rhywbeth o ran dynion. Ni ddim y gorau i wneud hynny - hyd yn oed gyda ffrindiau a theulu."

Cyfarfod AA yn Nhŷ Penrhyn
Meddai Dewi: ""Mae honesty yn big thing. Pan ti'n onest hefo rhywun am be sy'n mynd trwy dy feddwl di, mae'n cymryd o off chdi."
"Mae o yn beth anodd bod yn recovery pan ti'n ifanc fel da ni. Mae dy ffrindiau di yn prime of your life situation."
Yn ôl Joseff mae caethineb yn fyd hynod gymhleth ac mae'n cael ei gamddeall yn fawr yn ein cymdeithas. "Mae doctoriaid, arbenigwyr, a phobl academaidd wedi treulio degawdau yn trio ffeindio mas beth yw gwraidd y broblem ond does dim ateb. Dyna pa mor gymhleth yw e," meddai.
'Pwy sy'n poeni?'
Daw Joseff o gefndir addysg a gwaith reit gymysglyd. Graddiodd yn y Gyfraith ym Mryste a gweithio fel paralegal yn Llundain cyn mynd i astudio Celf yng Nghaeredin. Yna symudodd yn ôl i Lundain ac ymuno a chwmni hysbysebu teledu. Mae o bellach yn un o wneuthurwyr dogfen prysuraf Cymru.
"Nes i raddio yn y Gyfraith gyda'r meddylfryd y byddai'n gwella cymdeithas, fel Atticus Finch yn To Kill a Mockingbird, ond doedd e ddim cweit fel 'na" meddai Joseff.

Arooj o gyfres HANSH Grid
"Ro'ni t'mach fel Goldilocks gyda'r uwd a'r mêl, roedd y gyfraith yn rhy sych ac wedyn roedd hysbysebu rhy felys. Doeddwn i ddim yn gallu cael fy nannedd mewn i'r cig."
"Roedd y cyfryngau a gwneud dogfen yn cyfuno'r ddau beth yn dda rili. Fy safbwynt cyntaf yw, 'pwy sy'n poeni?'"
'Taflu goleuni ar gymdeithas'
Mae Joseff yn enwi'r cyfarwyddwr Andrea Arnold, sydd wedi creu ffilmiau llwyddiannus fel Wasp, Fish Tank ac American Honey fel dylanwad mawr.
"Mae hi'n gyfarwyddwr ffilm sy'n gwneud lot o waith ar social realism. Mae ei steil hi yn wych.
"Er bod e yn fiction dwi'n meddwl bod hi'n hel yr elfennau na o daflu goleuni ar gymdeithas. Mae hi yn herio rhagfarnau ac yn dangos slice of life. Dyna be fi'n hoffi dangos.
"Dim edrych lan, dim edrych lawr ar neb, ond jest dangos gwir boced fach o gymdeithas."

Joseff yn archwilio mudiad crefyddol y Hare Krishna
Mae gan Joseff dipyn ar y gweill o raglen gyda gweithredwyr yn erbyn yr Heddlu yng Nghaerdydd, dogfen ar gymuned off-grid yn y Gorllewin, a thaith tîm Cheerleading Cymru i'r Unol Daleithiau. Felly gwyliwch y gofod.
"Eto, mae'r pynciau hyn jest yn ffurf edrych ffordd arall o fyw a gofyn cwestiynau am sut mae strwythur cymdeithas yn gweithio - rhywbeth sydd wastad yn gôl gen i yn fy ngwaith."