
Fe fu'n rhaid i Sefydliad Achub Mynydd Dyffryn Ogwen achub y cerddwyr oddi ar yr esgair
Mae dringwyr mynydd wedi cael eu beirniadu am eu penderfyniad "annoeth" tra'n cerdded esgair Llech Ddu yn Eryri ddydd Sadwrn.
Dywed Sefydliad Achub Mynydd Dyffryn Ogwen nad oedd gan y dringwyr o Orllewin Canolbarth Lloegr y cyfarpar na'r sgiliau addas a bu'n rhaid achub dau o'r pedwar a oedd yn cerdded wedi iddynt gael eu gadael ar ôl.
Brynhawn Sadwrn fe gymerodd hi bedair awr i achub y ddau oedd ar ôl mewn amodau gaeafol - roedd y ddau wedi ffonio am gymorth ond, medd y tîm achub, "â fawr o syniad lle'r oeddynt na lle oedd eu ceir".

Fe gymerodd hi bedair awr i achub y ddau gerddwr oddi ar y Carneddau ddydd Sadwrn
Dywedodd llefarydd ar ran Sefydliad Achub Mynydd Dyffryn Ogwen eu bod wedi gollwng rhaffau i helpu'r ddau gerddwr a oedd yn "hynod o oer ond yn falch o weld y tîm achub".
Fe ddaeth dau aelod arall o'r tîm achub o hyd i geir y cerddwyr ac fe arhosont tra bod y ddau gerddwr a oedd wedi cwblhau'r daith yn cyrraedd mewn tacsi.
Mewn datganiad dywedodd y tîm achub bod eu harweinydd wedi dweud wrth y cerddwyr na ddylent fod wedi gadael dau ar ôl ac roedd yna gryn feirniadaeth hefyd ar eu diffyg sgiliau ac offer.