IVF: 'Ca'l cynnig y driniaeth ychwanegol yn confusing'
Mae angen rheoli "y triniaethau ychwanegol" sy'n cael eu cynnig gan rai clinigau IVF yn well, medd Aelod Seneddol Pontypridd.
Mae'r triniaethau ychwanegol yn ddrud ac yn gallu cael eu cynnig yn ystod triniaeth IVF ond mae eu llwyddiant yn amrywio.
Dywed Alex Davies-Jones bod angen mwy o reoliadau gan bod clinigau sy'n cynnig triniaethau o'r fath yn gallu "manteisio ar bobl fregus".
Mae Hawys Barrett, 36, yn byw yn Sir Gaerfyrddin gyda'i gŵr Ian a'i mab, Mabon sy'n 17 mis oed ac er i Mabon gael ei eni wedi triniaeth IVF ar y Gwasanaeth Iechyd, dywed Hawys ei bod wedi cael cynnig triniaeth ychwanegol ar ddechau'r daith.
"Roedd ca'l cynnig y driniaeth ychwanegol yn confusing," meddai.
"Roedd e'n benderfyniad mawr ac o'n ni ddim yn gwybod beth i wneud am y gorau.
"Chi'n cyraedd man le chi'n desperate a fi'n credu, os yw clinics private yn cymryd mantais ar y ffaith bod cyplau yn vulnerable ofnadwy ac yn desperate i gael babi... mae angen dod â rheolau mewn i wneud yn siŵr bod neb yn gallu gwneud hynna i rywun."