Yr Ail Adran: Casnewydd 4-2 Tranmere Rovers

  • Cyhoeddwyd
Aaron Lewis yn rhwydo gôl agoriadol CasnewyddFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Y Cymro Aaron Lewis, 23, yn rhwydo gôl agoriadol Casnewydd

Roedd hi'n fuddugoliaeth swmpus o 4-2 i Gasnewydd yn erbyn Tranmere Rovers ar Rodney Parade ddydd Sadwrn.

Rhoddodd Aaron Lewis y tîm cartref ar y blaen, cyn i Dominic Telford ddyblu'r fantais gyda chic gosb.

Tynnodd Josh Dacres-Cogley un yn ôl i Tranmere, cyn i Finn Azaz a Telford rwydo naill ochr i gôl Mickey Demetriou i'w rwyd ei hun.

Mae Tranmere yn aros yn drydydd er gwaethaf y canlyniad, tra bod yr Alltudion yn mynd yn gyfartal ar bwyntiau gyda Swindon Town yn seithfed.