Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 4-1 Aldershot Town

  • Cyhoeddwyd
Paul Mullin oedd yr arwr ar y Cae Ras ddydd SadwrnFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Paul Mullin oedd yr arwr ar y Cae Ras ddydd Sadwrn

Rhwydodd Paul Mullin ddwywaith gyda Jordan Davies ac Ollie Palmer hefyd yn sgorio wrth i obeithion Wrecsam o ddyrchafiad gryfhau unwaith eto.

Mullin ddechreuodd y sgorio cyn yr egwyl ar y Cae Ras, cyn i'r Cymro ifanc Davies sgorio ar ôl cic rydd gyflym.

Daeth y drydedd gan Palmer cyn i Mullin ychwanegu ei ail. Giles Phillips sgoriodd gôl gysur i'r ymwelwyr.

Mae Wrecsam yn codi o dri lle i bedwerydd yn y Gynghrair Genedlaethol, tra bod Aldershot yn disgyn i 20fed.