Tân mynydd mawr ger stad ddiwydiannol yng Nghwm Cynon

  • Cyhoeddwyd
Tân PenderynFfynhonnell y llun, Garan Rhys Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r tân yn ardal Penderyn, ger Stad Ddiwydiannol Rhigos

Mae criwiau tân wedi bod yn delio â thân mawr ar lethrau mynydd yn Rhondda Cynon Taf.

Cafodd y gwasanaeth brys eu galw i'r safle ger Stad Ddiwydiannol Rhigos, yn ardal Penderyn Cwm Cynon tua 19:00 nos Lun.

Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru roedd 12 hectar, neu 30 erw, o dir ar dân.

Cafodd dau griw eu danfon - un o Lyn-nedd, yng Nghastell-nedd Port Talbot a'r llall o Aber-craf ym Mhowys.

Tân PenderynFfynhonnell y llun, Garan Rhys Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Mae tyst yn amcangyfrif bod y fflamau o gwmpas 10 troedfedd o uchder

Dywedodd Garan Rhys Thomas, sy'n byw ger y safle yn Rhigos: "Yn bendant, dyma'r tân fwya' gwallgof i mi ei weld hyd yn hyn.

"Ry'n ni'n cael tanau gwyllt ym misoedd yr haf ond byth bron yr adeg yma o'r flwyddyn.

"Roedd yn drewi. Roedd rhaid tynnu dillad i mewn oddi ar y lein a chau'r holl ffenestri."

Mynegodd bryder y gallai'r fflamau ladd ŵyn bach ar y mynydd yn sgil "haenau o dân ar draws y mynydd".

Ychwanegodd: "Petaswn i'n dyfalu, byddwn i'n dweud bod y fflamau bron yn 10 troedfedd o uchder."