
Agorwyd siop 'Eva Amour' fis Tachwedd, cyn i Wynedd sefydlu'r drefn angenrheidiol ar gyfer siopau rhyw
Mae cynghorwyr Gwynedd wedi gwrthod caniatáu trwydded ar gyfer siop rhyw yn Y Bermo.
Er fod y siop 'Eva Amour' wedi masnachu ar y stryd fawr ers mis Tachwedd, penderfynodd y cyngor ddydd Iau wrthod caniatâd iddi barhau i wneud hynny.
Yn ôl aelodau'r Pwyllgor Trwyddedu fe'i gwrthodwyd ar sail lleoliad.
Denodd cais David Powley a Daniel Millar 82 llythyr o wrthwynebiad gyda swyddogion yn gytûn nad oedd y siop yn "cyd-fynd â chymeriad yr ardal".
Roedd yna bryderon hefyd ei bod yn agos i groesfan a ddefnyddir gan blant bob dydd.
Proses drwyddedu
Wedi'i leoli'n Wrecsam yn flaenorol, symudwyd y busnes i'r Bermo yn dilyn gwario £30,000 i weddnewid hen siop cigydd ar Sgwâr Santes Anne.
Cafodd cais gwreiddiol am drwydded siop rhyw ei wneud i Gyngor Gwynedd yn Ionawr 2021, ond bu'n rhaid disgwyl dros flwyddyn am benderfyniad oherwydd ni sefydlwyd y pwerau angenrheidiol tu allan i ardal Arfon o'r sir tan 6 Rhagfyr.
Wrth siarad yn ystod y cyfarfod brynhawn Iau dywedodd un o'r perchnogion, Mr Powley, fod y fenter wedi denu llawer o gefnogaeth yn lleol ac wedi "ennill" rhai oedd yn wrthwynebus i ddechrau.
Hefyd cododd bryderon gyda'r broses gan honni y dylai'r ymgynghori wedi gorfod dechrau o'r newydd gan fod yr ymgynghoriad gwreiddiol wedi digwydd dros flwyddyn yn ôl. Honnodd hefyd nad oedd deiseb o blaid y fenter wedi'i hystyried yn llawn.

Saif y siop bron gyferbyn ag Eglwys Crist, Y Bermo
Yn yr adroddiad nodwyd bod wyth llythyr o gefnogaeth wedi'i dderbyn gan y cyngor ond bod 82 arall wedi codi pryderon - yn eu plith pryder bod y siop yn agos i addoldai lleol gan gynnwys Eglwys Crist y dref.
Roedd Cyngor Tref y Bermo eisoes wedi pleidleisio'n unfrydol yn erbyn caniatáu trwydded.
Dywedodd y Cynghorydd Katie Price, ar ran y cyngor tref: "Roedd nifer y llythyrau yn erbyn y cais ymhell yn fwy nag unrhyw gais blaenorol rydym wedi'i drafod."
Ychwanegodd farn y cyngor fod cynnig trwydded yn "amhriodol" o ystyried cymeriad yr ardal, ger croesfan ffordd a dros y ffordd i Eglwys Crist, ble cynhelir llawer o ddigwyddiadau gan gynnwys bedyddio, priodasau ac angladdau.
'Nid hen ddynion budr'
Er hyn, dywedodd Mr Powley nad "hen ddynion budr" oedd y cwsmeriaid, ond "yn bennaf merched yn eu 30au".
Ychwanegodd: "Mae llawer o ddiddordeb a theimlad cryf o blaid ac yn erbyn ond yn fwy ddiweddar, llawer o deimladau cryf o blaid [y drwydded].
"Allai ddim cerdded lawr y stryd fawr heb i rywun ddymuno pob lwc i mi ar gyfer heddiw.
"Rydym yn rhan o'r gymuned. 'Dan ni'n byw yma ymysg pobl Y Bermo ac yn caru'r ardal.
"'Dan ni dal yn mynd i fod yma boed 'na drwydded neu beidio - mae hi ychydig bach yn lletchwith os na chawn ni drwydded achos byddai peidio cael un yn cloi'r drws ar gyfer sefydliad rhyw.
"Ond fe fyddai'n agor y drws i siop ddillad isaf, er enghraifft.
"Dim bygythiad ydy hynny ond rydyn ni'n cael ein hunain mewn sefyllfa lletchwith iawn oherwydd yr oedi yn y broses yma.
"Nid yw'r angerdd a'r gefnogaeth o blaid siop wedi cael ei ganiatáu i gael ei gyflwyno'n ffurfiol.
"Rydym wedi bod ar agor nawr ers cwpl o fisoedd a does 'na ddim byd wedi digwydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2021
