
Fe laddodd Matthew Salisbury ei hun ym mis Mai 2019
Bu farw tad 34 oed ddiwrnod ar ôl cael ei anfon o'r ysbyty am nad oedd gwely ar gael iddo, mae cwest wedi clywed.
Cafodd Matthew Salisbury, o Grymych, Sir Benfro, ei ganfod yn farw mewn hen chwarel ger Llangynog ym mis Mai 2019.
Clywodd y cwest i'w farwolaeth ei fod wedi mynd i'r ysbyty gyda'i wraig 24 awr yn gynharach ar ôl bygwth lladd ei hun, ond na chafodd aros yno, er bod ei wraig wedi apelio ar staff i'w dderbyn.
Cofnododd crwner Sir Benfro, Paul Bennett, gasgliad o hunanladdiad.
Roedd yn dad i ferch ddwy oed ac roedd ganddo lysferched 11 a saith oed.
Wrth grynhoi tystiolaeth mewn gwrandawiad cynharach dywedodd y crwner fod gwraig Mr Salisbury, Tara, wedi disgrifio ei hanes o broblemau iechyd meddwl.
Roedd ei gŵr wedi ofni ei fod yn sgitsoffrenig ac yn dioddef o anhwylder deubegynol (bipolar).
"Roedd yn paranoid - gwaethygodd ei symptomau, roedd yn meddwl ei fod yn cael ei ddilyn, a gallai glywed ôl troed y tu ôl iddo," meddai.
Teimlo'n anobeithiol
Dywedodd y crwner fod gwraig Mr Salisbury wedi ei berswadio i fynd i Ysbyty Glangwili lle cawson nhw eu gweld gan ddwy nyrs iechyd meddwl.
Roedd hi wedi apelio arnyn nhw i dderbyn ei gŵr i'r ysbyty, ac yn teimlo nad oedden nhw'n cael eu trin yn ddigon difrifol.
Cafodd ei anfon i ffwrdd am driniaeth yn y gymuned, meddai, gan nad oedd gwelyau ar gael.
Dywedodd y crwner ei bod mewn panig wedi'r ymweliad, a phan gafodd ei atgyfeirio yn ôl i'r gymuned, roedd hi'n teimlo'n anobeithiol am y sefyllfa.
Wrth barhau â'i grynodeb, dywedodd y crwner fod y nyrsys wedi dweud yn eu tystiolaeth, nad oedden nhw'n cofio cais i'w dderbyn i'r ysbyty a'u bod wedi dod i'r farn nad oedd bellach yn mynegi bwriad i ladd ei hun.
Roedd yn barod i gael cefnogaeth yn y gymuned, ac wedi cytuno i beidio â gwneud dim am chwe mis.
Daeth y seiciatrydd, yr Athro Kevin Gournay, a adolygodd yr achos, i'r casgliad nad oedd asesiad a thriniaeth Mr Salisbury, yn ddigon cadarn.
Ni allai ddweud a fyddai cyfeirio at y seiciatrydd ar alwad wedi gwneud gwahaniaeth i'r canlyniad.
Fe ddywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda eu bod yn derbyn canfyddiadau'r cwest ac y bydd gwersi yn cael eu rhannu drwyddi draw.