Balchder o weld 'egni' cerflun Elaine Morgan
Mae cerflun o awdures o'r cymoedd fu'n arloesi ym myd teledu ac ym maes gwyddoniaeth yn cael ei ddadorchuddio ddydd Gwener.
Y cerflun efydd o Elaine Morgan yn Aberpennar, Rhondda Cynon Taf, yw'r ail o bum cerflun o fenywod go iawn yng Nghymru sy'n rhan o ymgyrch y grŵp Monumental Welsh Women.
Mae'r cerflun wedi'i osod ger canolfan feddygol newydd Tŷ Calon Lan, ac mae wedi'i gynllunio gan y cerflunydd Emma Rogers - gafodd ei dewis o restr fer o gerflunwyr benywaidd rhyngwladol.
Emma Price o Studio Response wnaeth gomisiynu Emma Rogers i greu'r cerflun.