Penybont i herio'r Seintiau Newydd yn ffeinal Cwpan Cymru

  • Cyhoeddwyd
TNS yn dathluFfynhonnell y llun, FAW/John Smith
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y Seintiau Newydd yn gobeithio sicrhau Cwpan Cymru yn ogystal â phencampwriaeth y Cymru Premier

Doedd perfformiad angerddol Bae Colwyn ddim digon i stopio'r Seintiau Newydd yn eu hymgais i sicrhau Cwpan Cymru am yr wythfed tro.

Llwyddodd y tîm ail haen i rwystro pencampwyr y Cymru Premier i un gôl, ond y tîm proffesiynol o Groesoswallt sydd drwodd i'r rownd derfynol.

Danny Davies sgoriodd unig gôl y gêm ar y Belle Vue yn Y Rhyl.

Nos Wener sicrhaodd Penybont eu lle yn y ffeinal drwy guro'r Bala ar giciau o'r smotyn.

Chwaraewyr Penybont yn dathluFfynhonnell y llun, FAW/John Smith
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraewyr Penybont yn dathlu'r fuddugoliaeth yn erbyn Y Bala yn y rownd gynderfynol gyntaf

Wedi 90 munud di-sgôr, cyn-chwaraewr Cymru a Wigan, Shaun MacDonald, sgoriodd y gic fuddugol yn Aberystwyth.

Bydd y rownd derfynol yn cael ei chwarae ar benwythnos 30 Ebrill - 2 Mai ar faes sydd eto i'w benderfynu.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol