
Nos Iau 24 Mawrth mae Cymru'n wynebu Awstria mewn gêm dyngedfennol i gyrraedd Cwpan y Byd Qatar 2022.
Bydd buddugoliaeth i garfan Robert Page yn golygu bydd y cochion ddim ond un gêm i ffwrdd o gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.
Felly dyma 'chydig o ffeithiau diddorol am wrthwynebwyr Cymru, Awstria.
'Burschen'
Yn Awstria mae'r tiîm cenedlaethol yn cael eu adnabod gyda'r llysenwau Das Team (Y Tîm) Burschen (Y bechgyn) a Unsere Burschen (hogia ni).

Kurt Welzl o Awstria yn ymosod yn erbyn Ffrainc yng Nghwpan y Byd 1982
Detholion y byd
Mae Awstria yn 30fed yn y byd yn netholion FIFA, ac mae Cymru yn y 20fed safle.
Yr uchaf mae Awstria erioed wedi bod yw'r 10fed safle ym mis Mawrth 2016, ac yr uchaf i Gymrum oedd yr wythfed safle yn netholion Hydref 2015.
Prif glybiau Awstria
Y clwb mwyaf llwyddiannus yn hanes pêl-droed Awstria yw Rapid Wien - maent wedi ennill Pencampwriaeth Awstria 32 o weithiau a gorffen yn ail 29 gwaith. Austria Wien yw'r ail dîm mwyaf llwyddiannus gyda 24 pencampwriaeth ac maent wedi gorffen yn ail ar 19 achlysur.
Ond yn y blynyddoedd diweddar FC Red Bull Salzburg yw'r prif glwb - maent wedi ennill y Bundesliga Awstria wyth mlynedd yn olynol ac yn eistedd ar frig y gynghrair ar hyn o bryd.

Red Bull Salzburg yn dathlu ennill pencampwriaeth y Bundesliga am yr wythfed tro yn olynol - 22 Mai, 2021
Chwaraewyr adnabyddus
Andi Herzog sydd wedi cael y nifer mwyaf o gapiau dros Awstria, 103 rhwng 1988 a 2003. Toni Polster sydd wedi sgorio'r nifer mwyaf o goliau dros y tîm cenedlaethol - 44 mewn 95 gêm rhwng 1982 a 2000.
Mae enwau mawr hanes pêl-droed Awstria hefyd yn cynnwys Gerhard Hanappi, Matthias Sindelar, cyn-ymosodwr Barcelona, Hans Krankl, ac fe gafodd Robert Sara ei enwi yn nhîm y gystadleuaeth yng Nghwpan y Byd 1978.

Chwaraeodd yr ymosodwr Toni Polster dros glybiau fel Torino (1987-88), Sevilla (1988-91), FC Köln (1993-98) a Borussia Mönchengladbach (1998-1999) cyn ymddeol yn 2000
Awstria yng Nghwpan y Byd
Mae Awstria wedi cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd saith gwaith; 1934, 1954, 1958, 1978, 1982, 1990 a 1998. Fe wnaethon nhw hefyd lwyddo i gyrraedd rowndiau terfynol 1938, ond gan fod y wlad wedi ei uno â'r Almaen Natsïaidd y flwyddyn honno doedd ddim posib i Awstria gymryd rhan.
Y gorau a wnaeth Awstria yng Nghwpan y Byd oedd trydydd safle yn y gystadleuaeth yn Y Swistir yn 1954.
Wrth gwrs mae hi'n 64 mlynedd ers i Gymru gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn Sweden yn 1958.

Andreas Ogris o Awstria yn herio amddiffyn yr Unol Daleithiau yng Ngwpan y Byd Italia '90 yn Fflorens- 19 Mehefin 1990
Cymru v Awstria: ystadegau ben-ben
Mae Cymru ac Awstria wedi wynebu ei gilydd 10 gwaith; pum buddugoliaeth i Awstria, tair buddugoliaeth i Gymru ac dwy gêm gyfartal.
Cafodd y gêm gyntaf rhwng Cymru ac Awstria ei chwarae ar 9 Mai, 1954, gyda Awstria'n ennill 2-0 yn erbyn tîm Cymru oedd yn cynnwys John Charles, Ivor Allchurch a Cliff Jones.

Yr eilydd Ben Woodburn oedd unig sgoriwr y gêm ddiwethaf rhwng y ddwy wlad ym mis Medi 2017
Carfan presennol Awstria
Seren carfan Awstria heddiw yw David Alaba o Real Madrid, sy'n chwarae yn yr amddiffyn ac yng nghanol cae. Mae wedi ennill 91 cap dros Awstria ers 2009, gan sgorio 14 gôl.
Mae'r enwau adnabyddus eraill yn cynnwys Marko Arnautović sydd bellach gyda Bologna, Valentino Lazaro sydd efo Benfica a Marcel Sabitzer sy'n chwarae i Bayern Munich.
Mae 14 o garfan presennol Awstria'n chwarae gyda chlybiau yn Yr Almaen, gan gynnwys y capten Julian Baumgartlinger sy'n chwarae i Bayer Leverkusen.

Arwyddodd David Alaba â Real Madrid yn haf 2021, ond cyn hynny roedd efo Bayern Munich am ddeuddeg tymor
Y rheolwr
Ers 2018 yr Almaenwr Franco Foda yw rheolwr tîm cenedlaethol Awstria. Cafodd dau gap dros Gorllewin Yr Almaen yn 1987 ac roedd yn amddiffynnwr i glybiau yn cynnwys FC Kaiserslautern, Bayer 04 Leverkusen a VfB Stuttgart.
Yn ei amser gyda'r tîm cenedlaethol mae Awstria ennill 26 gêm, colli 14, a chael pum gêm gyfartal - mae wedi ennill 57.78% o'i gemau ers cael ei benodi.

Franco Foda, rhwolwr tîm cenedlaethol Awstria
Canlyniadau diweddar
Gorffennodd Awstria ei hymgyrch ar gyfer Cwpan y Byd 2022 gyda cholled yn erbyn Denmarc (0-1), a dwy fuddugoliaeth yn erbyn Israel (4-2) a Moldova (4-1).
Yng ngrwpiau rhagbrofol Cwpan y Byd gorffennodd Awstria'n bedwerydd yng Nrŵp F, gan ennill pum gêm, colli pedair a chael un gêm gyfartal. Daeth colleidiau trwm yn erbyn Denmarc gartref, 0-4, ac Israel oddi cartref 5-2 yn ystod yr ymgyrch.
Ond fe gafwyd lle yn y gemau ail-gyfle gan eu bod wedi ennill eu grŵp yng Nghynghrair y Cenhedloedd 2020-21.
