
Achubwyr yn trin y dyn ar y ffordd
Mae cerddwr mewn cyflwr difrifol ar ôl syrthio'n anymwybodol i lawr un o raeadrau mwyaf poblogaidd Eryri.
Fe syrthiodd y dyn hyd at 15 metr o ddibyn uwchben Y Rhaeadr Ewynnol ger Betws-y-Coed, tua 11:00 ddydd Sadwrn.
Roedd yn anymwybodol yn y dŵr am oddeutu 10 munud nes i barafeddyg, nad oedd ar ddyletswydd, roi triniaeth adfywio'r galon iddo, medd achubwyr.
Bu'n rhaid cau'r A5 fel bod hofrennydd yn gallu glanio er mwyn cludo'r dyn i Ysbyty Brenhinol Prifysgol Stoke.
Gofal critigol yn y fan a'r lle
"Roedd dyn ifanc wedi syrthio oddeutu 10-15 metr o'r dibyn uwchben yr afon gyferbyn â'r ganolfan ymwelwyr," medd llefarydd ar ran Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen.
"Fe laniodd yn anymwybodol yn y dŵr a pharhau yno am 10 munud nes i'w ffrind, rhywun oedd yn digwydd bod yno, a pharafeddyg nad oedd ar ddyletswydd lwyddo i'w gyrraedd.
"Gan weithio gyda chriw Ambiwlans Awyr Cymru a dau barafeddyg, fe gafodd y dyn ifanc, oedd yn ddifrifol wael, ei drin a'i osod mewn matres wactod a stretsier cyn cael ei godi i'r llwybr.
"O'r fan honno, fe gafodd ei gludo o'r A5, oedd ar gau erbyn hynny, ble y cafodd rhagor o ofal critigol cyn cael ei hedfan i'r ganolfan trawma yn Stoke."