Cymru 1-1 Gweriniaeth Tsiec

  • Cyhoeddwyd
Wayne Hennessey a Neville SouthallFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Cyflwynwyd Wayne Hennessey gyda thlws ar achlysur ei 100fed cap gan Neville Southall

Sicrhaodd dîm ifanc Cymru gêm gyfartal mewn achlysur fydd yn cael ei chofio'n bennaf am 100fed cap Wayne Hennessey.

Cyn y gêm gyfeillgar fe gyflwynwyd y golwr o Fôn gyda thlws i nodi'r gamp gan un o'i arwyr, Neville Southall.

Roedd y Weriniaeth Tsiec yn dominyddu'r meddiant yn ystod yr hanner cyntaf gyda dau gyfle yn syrthio i Jan Kuchta o fewn y chwarter awr agoriadol.

Gwobrwywyd goruchafiaeth y Tsieciaid ar ôl 32 munud wedi i Soucek fanteisio ar bêl lac yn y cwrt cosbi.

Ond roedd Cymru'n gyfartal o fewn dau funud, diolch i symudiad ddechreuodd gyda phas hir Chris Gunter.

Gyda hwnnw'n darganfod Brennan Johnson, llwyddodd chwaraewyr Nottingham Forest i basio'i ddyn a thynnu'r bêl yn ôl i Rubin Colwill, gyda'i ergyd clyfar yn diweddu yng nghornel isa'r rhwyd.

Rubin Colwill yn dathluFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Rubin Colwill yn dathlu'i gôl gyda Rhys Norrington-Davies

Roedd Ondrej Lingr yn credu ei fod wedi rhoi'r Tsieciaid ar y blaen yn fuan wedi'r egwyl, ond roedd o'n camsefyll.

Crëwyd mwy o gyfleon gan Gymru yn yr ail hanner, gyda Johnson yn serennu yn y llinell flaen.

Yn ôl y disgwyl mewn gêm gyfeillgar, fe wnaed sawl newid wedi awr o chwarae, gyda Adam Davies yn dod ymlaen am Wayne Hennessey i gymeradwyaeth y dorf o dros 12,000 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Bu bron i Bale, wedi dod i'r maes gyda 10 munud yn weddill, sicrhau buddugoliaeth ond arbedwyd ei ergyd o ongl dynn gan Tomas Vaclik.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol