Stori ffŵl Ebrill: Taylor Swift yn canu Yma o Hyd

  • Cyhoeddwyd
Taylor Swift yn perfformio yn 2021; Dafydd Iwan cyn gêm Cymru v AwstriaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Taylor Swift, sy'n wreiddiol o dalaith Pennsylvania, yn perfformio yn 2021; Dafydd Iwan cyn gêm Cymru v Awstria

Cyhoeddwyd y stori ffug yma ar fore 1 Ebrill 2022 fel stori Ffŵl Ebrill:

Mae'r seren bop a chanu gwlad Taylor Swift wedi recordio fersiwn dwyieithog o Yma o Hyd - diolch i'w ffrind, yr actor Hollywood a pherchennog clwb pêl-droed Wrecsam, Ryan Reynolds.

Ar ôl iddo yrru clip iddi o Dafydd Iwan yn ei ddagrau wrth berfformio cyn gêm Cymru yn ddiweddar, fe wnaeth Taylor Swift, sy'n ffrindiau gorau gyda Blake Lively - gwraig actor ffilmiau Deadpool - yn syth i'w stiwdio recordio yn ei chartref newydd ym Mryn y Briallu, Llundain.

Gyda'i gwreiddiau yng nghanu gwlad Nashville, a gyda help Google Translate, doedd hi fawr o dro yn recordio ei fersiwn hi o'r clasur Gymraeg - Yma o Hyd/Still Here.

Ac ar ôl ei yrru i Ryan Reynolds, sy'n ddilynwr brwd o'r bêl gron ers prynu clwb Wrecsam gyda'r actor Rob McElhenney, fe rannodd o'r gân gyda'i ddilynwyr Twitter - ac mae newydd gael ei roi ar y we.

Disgrifiad,

Ysbrydolodd y clip feiral o Dafydd Iwan y gantores roi cynnig ei hun ar y clasur Gymraeg, diolch i'w ffrindiau - actor a pherchennog clwb Wrecsam Ryan Reynolds a'i wraig Blake Lively (ar y chwith gyda hi yn y llun)

Mae'r ddau actor Hollywood wedi dangos diddordeb yng Nghymru a'r iaith sawl gwaith yn ddiweddar, yn cynnwys rhyddhau fideo direidus am brynu'r Dreigiau, gyda'r newyddiadurwr Cymraeg Maxine Hughes yn ymddangos fel cyfieithydd iddyn nhw. Mae Rob McElhenney hefyd yn dysgu Cymraeg ar hyn o bryd.

Yn wreiddiol o Pennsylvania, fe symudodd Taylor Swift i Nashville i ddilyn gyrfa mewn canu gwlad pan yn 14 oed. Mae hi bellach wedi gwerthu 200 miliwn o recordiau.

Dafydd Iwan yn canu yn Stadiwm Caerdydd cyn gem Cymru v AwstriaFfynhonnell y llun, Huw Fairclough/Getty
Disgrifiad o’r llun,

Aeth clip o Dafydd Iwan yn canu cyn gêm Cymru ar 24 Mawrth yn feiral. Bydd yn canu cyn gêm nesaf Cymru fis Mehefin