'Mae'n cymryd amser i fod yn un o'r timau gorau'

Dywed Siwan Lillicrap, capten tîm rygbi merched Cymru, ei bod hi'n hynod bwysig i'r tîm roi eu colled drom ddydd Sadwrn yn erbyn Lloegr mewn cyd-destun a bod yn rhaid cofio mai newydd fynd yn broffesiynol mae chwaraewyr Cymru.

"Mae'r merched yn siomedig ond fy neges yw bod rhaid i ni beidio digalonni," meddai Ms Lillicrap wrth siarad â BBC Cymru.

"Ni mo'yn cyrraedd yr un safon â Lloegr - ni'n chwarae i'n gwlad ac ry'n am fod yn un o'r timoedd gorau yn y byd ond mae hynna'n cymryd amser.

"Dyw bod yn broffesiynol a chael perfformiad da ddim yn digwydd dros nos - rhaid i ni gael amser i ddatblygu," ychwanegodd.