Ar ôl gweld fideo Facebook cysylltodd Sian gydag Enlli am bod eu sefyllfaoedd mor debyg

Ym mis Mai eleni, rhannodd BBC Radio Cymru fideo ar Facebook am stori Enlli a Gwenno oedd wedi'i darlledu ar raglen Bore Sul yr orsaf.

Mae Gwenno, merch Enlli, yn fyddar ac yn awtistig, Pan welodd Sian y fideo, cafodd ei synnu fod teulu â stori mor debyg i'w un hi yn byw dafliad carreg oddi wrthi a hithau ddimyn eu hadnabod. Gadawodd Sian sylw ar y fideo yn gofyn i Enlli gysylltu efo hi. Pan welodd cynhyrchwyr y rhaglen y sylw fe gysyllton nhw ag Enlli a Sian er mwyn i'r ddwy gael sgwrs. Dyma sut aeth hi.