Taith baton y Frenhines: 'Diolchgar am y cyfle'

Wrth i Gemau'r Gymanwlad Birmingham 2022 agosáu, mae pobl ar draws Cymru yn cael y cyfle i gludo baton y Frenhines.

Mae'r baton, sy'n teithio i 72 o wledydd a thiriogaethau'r Gymanwlad, yn dod i Gymru yn ystod y daith 294 diwrnod o hyd.

Cymysgedd o gyffro a bod yn ddiolchgar am gael ei dewis ydy ymateb Maisy, 13 o Amlwch, sy'n cludo'r baton ar y diwrnod cyntaf yng Nghaergybi.

Mi fu'n rhaid iddi gael triniaeth ddwys am ganser pan yn iau ac ers hynny, wedi codi arian i elusennau plant.

Mae'n llysgennad i elusen Cancer Research ac Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Dywedodd ei bod yn ddiolchgar iawn o gael y cyfle i gario'r baton.