Barn pobl Ynys Môn ar beth sydd nesaf i Boris Johnson

Mae'r gefnogaeth i Brif Weinidog y DU, Boris Johnson, yn gwanhau.

Ddydd Mercher, fe ymddiswyddodd degau'n rhagor o weinidogion ar ôl i Sajid Javid a Rishi Sunak adael y cabinet a'u rolau fel yr ysgrifennydd iechyd a changhellor.

Fe gamodd y ddau i lawr mewn ymateb i'r ffordd wnaeth Boris Johnson ymdrin â honiadau o gamymddwyn yn erbyn Chris Pincher, cyn-Ddirprwy Brif Chwip y Ceidwadwyr.

Ond, mae pobl ar lawr gwlad wedi dweud eu dweud hefyd, a BBC Cymru wedi clywed gan rai o bobl Ynys Môn.

Beth nesaf, felly, i Boris Johnson?