Menopos: 'Anodd paratoi heb gefnogaeth leol'
Mae galwadau o'r newydd ar bob bwrdd iechyd yng Nghymru i sicrhau darpariaeth arbenigol i helpu gyda'r menopos.
Mae'r menopos yn rhan o'r broses naturiol o heneiddio i fenywod, gan gychwyn pan mae'r mislif yn dod i ben a does dim modd beichiogi yn naturiol dim mwy.
Fel arfer mae'n digwydd yn ystod y cyfnod rhwng 45 a 55 oed, ond gall hefyd gychwyn oherwydd llawdriniaeth hysterectomi.
Un a aeth drwy gyfnod caled iawn gyda'r menopos ar ôl cael hysterectomi oedd y weithwraig gymdeithasol o Lanfairpwll, Angharad Job.
Er bod nofio yn y môr yn rheolaidd gyda grŵp Titws Môn wedi gwneud byd o wahaniaeth, ychwanegodd bod yr un thema'n codi'n rheolaidd, sef y diffyg gwasanaethau menopos yn lleol.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn cymryd iechyd menywod yn "hynod ddifrifol" a'u bod yn "disgwyl i'r GIG ddarparu ystod llawn o wasanaethau i gefnogi merched sy'n mynd drwy'r menopos".