Gilfach Goch: Heddlu yn ymchwilio wedi marwolaeth dyn ar iard

  • Cyhoeddwyd
heddlu

Mae dyn 47 oed wedi marw ar ôl digwyddiad ar iard yn Rhondda Cynon Taf.

Cafodd yr heddlu eu galw i Evanstown yn ardal Gilfach Goch tua 07:45 ddydd Gwener.

Dywed Heddlu'r De nad yw marwolaeth y dyn yn amheus ond eu bod yn ymchwilio i'r digwyddiad ar y cyd â'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE).

Mae teulu'r dyn wedi cael gwybod ac maen nhw'n cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.