Llanberis yn orlawn ar ddiwrnod poethaf Cymru
Fe heidiodd cannoedd o bobl i Lyn Padarn yn Llanberis brynhawn Llun i fwynhau'r haul.
Cafodd y tymheredd uchaf erioed yng Nghymru ei gofnodi ym Mhenarlâg, Sir y Fflint - 37.1C - gan dorri'r record blaenorol o 30 mlynedd yn ôl.
Mae rhybudd ambr am dywydd poeth eithriadol mewn grym ar gyfer Cymru gyfan ddydd Llun a ddydd Mawrth.
Mae Llywodraeth y DU wedi datgan argyfwng cenedlaethol yn sgil y tywydd llethol.