
Cafodd criwiau eu galw i'r tân yn ystod oriau mân fore Sul
Mae'r gwasanaethau brys yn ymchwilio i dân sydd wedi achosi difrod i nifer o dai ar Stryd Gilfach ym Margoed.
Fore Sul roedd y tân o dan reolaeth ond roedd y gwasanaethau brys yn parhau yno.
Cafodd diffoddwyr tân eu galw i'r safle am 04:41.
Roedd yna rybudd i'r cyhoedd osgoi'r ardal er mwyn hwyluso gwaith y gwasanaethau brys.

Roedd yr ymchwiliad i achos y tân yn parhau fore Sul