
Roedd rhaid i Gerwyn Price setlo am yr ail safle ar ôl colli i Michael Van Gerwen yn y rownd derfynol yn Blackpool nos Sul
Boddi yn ymyl y lan oedd tynged Gerwyn Price wrth iddo golli i Michael van Gerwen yn rownd derfynol pencampwriaeth Matchplay y Byd nos Sul.
Yn dilyn wythnos o gystadlu yn y Winter Gardens roedd rhaid i'r Cymro o Markham setlo am yr ail safle a gwobr o £100,000.
Llwyddodd Price i gyrraedd y ffeinal wedi curo Martin Schindler, Dave Chisnall, José de Sousa a Danny Noppert ar y ffordd, gan hyd yn oed sicrhau cymal naw dart yn erbyn Noppert yn y rownd cyn-derfynol.
Ond cadwodd rhai o'r ddartiau gorau i'r gêm olaf un, gyda Van Gerwen yn methu a dal i fyny efo sgorio uchel y Cymro, tra hefyd yn gorffen yn effeithlon yn y cymalau agoriadiol.

Mae Michael van Gerwen wedi curo'r Matchplay dair gwaith yn dilyn buddugoliaeth nos Sul
Er hynny, dod yn ôl wnaeth y chwaraewr profiadol o'r Iseldiroedd, gan sicrhau'r fuddugoliaeth o 18 cymal i 14.
Gan ychwanegu tlws arall i'w gasgliad helaeth, yn ogystal â £200,000, mae'n golygu fod Van Gerwen bellach wedi ennill y Matchplay deirgwaith.