
Mae Ruta Stankeviciene (chwith), Jokubas Stankevicius (canol) a Normunds Freibergs (dde) yn gwadu cyhuddiadau o gaethwasiaeth fodern
Mae dyn o Gasnewydd sy'n gwadu cyhuddiadau caethwasiaeth fodern, gan gynnwys dod â dyn bregus o Latfia i Gymru, wedi gwadu cymryd miloedd o bunnau o'i gyfrif banc.
Dywedodd Normunds Freiburgs, 40, yn Llys y Goron Casnewydd ei fod wedi cofrestru cyfrif banc Rolands Kazoks, 31, i'w gyfeiriad ei hun am ei fod yn "ei helpu".
Mynnodd na wnaeth erioed gael mynediad i'r cyfrif ar-lein na chymryd arian o beiriant "heb ganiatâd" neu'n ddiarwybod i Mr Kazoks.
Mae Mr Freiburgs a phâr priod o Gasnewydd - Jokubas Stankevicius, 59, a Ruta Stankeviciene - yn gwadu cyhuddiad o orfodi person i gyflawni llafur gorfodol.
Mae Mr Freibergs hefyd yn gwadu trefnu neu hwyluso teithio person arall gyda golwg ar gamfanteisio, a gweithredu fel gangfeistr heb drwydded.
'Syllu ar brydau poeth'
Clywodd y llys fod Mr Freiburgs wedi trefnu i Mr Kazoks aros yn nhŷ "cyfeillion teuluol", sef ei gyd-ddiffynyddion, pan gyrhaeddodd Cymru o'r Almaen ym mis Tachwedd 2017.
Roedd Mr Freiburgs wedi helped Mr Kazoks gael gwaith drwy asiantaeth recriwtio yng Nghasnewydd - fel glanhawr yn y ddinas yn y lle cyntaf ac yna yn ffatri prosesu cig Avarra Foods yn Y Fenni.
Enillodd tua £10,000 o gyflog dros gyfnod o 11 mis yn ne Cymru, ond fe wnaeth cydweithwyr yn y ffatri ddechrau mynegi pryderon yn ei gylch, ac fe gafodd y GLAA (Gangmaster and Labour Abuse Authority) eu hysbysu.
Fe drefnodd y cydweithwyr i brynu esgidiau trainers iddo am ei fod yn dod i'w waith yn gwisgo sandalau ymhob tywydd a dillad blêr.
Clywodd ymchwilwyr y GLAA y byddai Mr Kazoks yn syllu ar brydau poeth y gweithwyr eraill yn y cantîn.

Mae'r achos yn cael ei gynnal yn Llys y Goron Casnewydd
Gan roi tystiolaeth trwy gyfieithydd, dywedodd Mr Feiburgs: "Roedd yn meddwl y byddai'n gallu gwneud popeth drosto'i hun, ond oherwydd ei Saesneg doedd e ddim. Fe ofynnodd am fy help."
Honnodd hefyd ei fod wedi brynu esgidiau gwaith i Mr Kazoks. "Roedd e'n teimlo cywilydd bod e methu bod yn ffrind go iawn am fod arna fe arian i mi," meddai.
Mae'r llys wedi clywed bod y tri diffynnydd wedi rheoli cyfrifon banc a chardiau debyd Mr Kazoks.
Mae'r rheithgor wedi gweld lluniau CCTV o Mr Stankevicius a Ms Ruta Stankevicienef yn tynnu arian o beiriannau arian yn rheolaidd o gyfrif Mr Kazokwife yn ystod oriau mân boreau Gwener - funudau yn unig wedi iddo dderbyn ei gyflog.
'Cuddio ar y trên'
Clywodd y llys hefyd bod arian yn cael ei drosglwyddo o'r cyfrif i gyfrif Mr Freibergs.
Roedd y diffynyddion yn dweud wrtho y byddai'n cael ei gyflog ar ôl ad-dalu dyled iddyn nhw am filiau a rhent, ond roedd y ddyled wastad yn codi a doedd ganddo ddim dimau.
Dywedodd Mr Kazoks wrth ymchwilwyr bod y cwpl wedi dweud wrtho bod y ddylen yn filoedd o bunnau, a bod rhestr ohonynt ar bapur ar ddrws yr oergell.
"Weithiau gofynnais am arian,"meddai. "Dywedon nhw wrtha'i 'pan rwyt ti'n talu'r holl arian sydd arnat ti, gei di brynu beth bynnag wyt ti mo'yn'."
Clywodd y llys y byddai'n ceisio osgoi talu £4 am docyn y trên adref i Gasnewydd o'r Fenni trwy guddio yng nghorneli cerbydau'r trenau am mai dyna'r unig arian oedd ganddo.
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Awst 2022

- Cyhoeddwyd1 Awst 2022
