Tân gwair yn lledaenu mewn cae ger Tyddewi

Yn Nhyddewi, mae'r gwasanaeth Tân ac Achub yn ceisio diffodd tân gwair sy'n lledaenu ar hyd bum cae brynhawn Sadwrn.

Dywedodd y Gwasanaeth bod criwiau o Dyddewi, Hwlffordd, Abergwaun ac Aberdaugleddau wedi cael eu hanfon, a rhagor ar y ffordd.

Mae heol y A487 ger maes carafanau Hendre Eynon ynghau yn Nhyddewi oherwydd y tân.

Mae rhybudd gan yr heddlu i bobl osgoi'r ardal gan fod sawl ffordd arall wedi gorfod cau hefyd.