Ymgais AS o Gymru i fod yn Faer Llundain yn methu

  • Cyhoeddwyd
Natasha AshgarFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Natasha Asghar gyfaddef bod llawer o bobl wedi cael "sioc" clywed ei bod hi'n ymgeisio

Mae Aelod o Senedd Cymru wedi methu yn ei hymgais i gael ei dewis fel ymgeisydd y Ceidwadwyr ar gyfer etholiad Maer Llundain.

Fe gyhoeddodd Natasha Asghar, AS Dwyrain De Cymru, dair wythnos yn ôl ei bod hi'n bwriadu ymgeisio, gan ychwanegu y byddai hi'n "chwa o awyr iach" i'r ddinas.

Cafodd y bwriad hwnnw ei groesawu gan rai a'i feirniadu gan eraill, gydag hyd yn oed rhai o fewn ei phlaid yn mynegi syndod am y cyhoeddiad.

Ond mae'r Ceidwadwyr nawr wedi dewis tri ymgeisydd ar gyfer eu rhestr fer - a dyw Ms Asghar ddim yn eu plith.

'Barod am Lundain'

Y tri ymgeisydd ar restr fer y Ceidwadwyr fydd Susan Hall, aelod o Gynulliad Llundain, Daniel Korski, sy'n gyn-ymgynghorydd yn Downing Street, a'r bargyfreithiwr Mozammel Hossain.

Mae'n golygu bod yr Aelod Seneddol Paul Scully, sy'n weinidog yn Llywodraeth y DU, hefyd ymhlith y rheiny sydd wedi bod yn aflwyddiannus.

Cafodd y rhestr fer ei llunio yn dilyn cyfweliadau gan banel ym mhencadlys y Ceidwadwyr, a bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi fis nesaf yn dilyn pleidlais ymhlith aelodau'r blaid.

Fe fydd yr ymgeisydd terfynol wedyn ymhlith y rhai fydd yn herio'r maer presennol Llafur, Sadiq Khan, fis Mai nesaf.

Natasha AsgharFfynhonnell y llun, Natasha Asghar
Disgrifiad o’r llun,

Mae Natasha Asghar yn ferch i'r diweddar Mohammed Asghar, oedd hefyd yn AS Ceidwadol dros Ddwyrain De Cymru rhwng 2007 a'i farwolaeth yn 2020

Cafodd Ms Asghar ei hethol i'r Senedd ym Medi 2021, a bellach mae'n llefarydd dros ei phlaid ar drafnidiaeth yng Nghymru.

Wrth gyhoeddi ei bwriad i sefyll, dywedodd ei bod hi wedi byw yn Llundain "am yr un nifer o flynyddoedd ag yr rydw i wedi byw yng Nghymru".

Ychwanegodd mewn datganiad fod ei phenderfyniad wedi dod yn dilyn "llawer o berswâd gan drigolion ledled Llundain".

Ar ôl dwy flynedd yn "ymladd yn erbyn polisïau Llafur yng Nghymru", dywedodd Ms Asghar ei bod yn "barod i fynd â'r frwydr i Lundain".