Osian Roberts: 'Talent anferth yn nhîm Cymru'
Wrth i Gymru baratoi i wynebu Armenia yn yr ymgyrch ragbrofol i gyrraedd Euro 2024 dywed cyn is-reolwr tîm pêl-droed Cymru, Osian Roberts, fod yna dalent anferth yn y tîm "a'u bod yn gwybod sut i ennill gemau ar lefel rhyngwladol".
Mae'n cydnabod bod colli Gareth Bale yn ergyd ynghyd â cholli chwaraewyr eraill o safon ond bod yna gynlluniau ar gyfer y cyfnod yma wedi'u gwneud ers tro.