Dylanwad Ystradgynlais 'yn bwysig' i artist o Wlad Pwyl
Fe fydd arddangosfa newydd yn cael ei agor a'i ehangu mewn hen gapel yng Nghwm Tawe ar gyfer gwaith artist wnaeth ffoi rhag y Natsïaid.
Daeth yr artist, Josef Herman, i Ystradgynlais o Wlad Pwyl yn 1944.
Yn ôl artist lleol, Gwenllian Beynon, roedd dylanwad glowyr y Cwm yn bwysig i'w waith.
Dywedodd yr hanesydd lleol Arwel Michael fod Herman wedi cael croeso mawr yn Ystradgynlais.