Morgeisi: 'Does ddim lot mas yna ar hyn o bryd'
Cafodd Luke Davies siom yr ddiweddar pan yn ceisio prynu tŷ y tu allan i Gaerdydd.
Er mwyn gallu meddwl am brynu tŷ roedd y cyflwynydd ac actor hunan-gyflogedig wedi llwyddo i sicrhau blaendal o £30,000, gyda chymorth ychwanegol gan ei deulu wrth ymgeisio am forgais o £200,000.
Wrth gael morgais fel hyn byddai'n golygu ad-daliadau misol o gwmpas £800-£900 y mis.
Gyda phob dim yn i le, dywedodd Luke ar raglen Dros Frecwast ei fod eisoes wedi rhoi cynnig llwyddiannus ar dŷ.
Ond ddydd Llun fe chwalodd y freuddwyd o fod berchen ar dŷ wrth i'r gwerthiant ddisgyn drwodd.
Bellach gyda phrisiau tai yn codi, a'r ffaith fod ei gais am forgais yn amodol ar gyfer y tŷ arbennig yma, dywedodd Luke nad oedd yn gwybod beth fydd yn digwydd erbyn hyn.