
Fe blediodd Sofidel UK Limited yn euog i dorri Adran 2(1) o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974
Mae cwmni cynhyrchu papur wedi cael dirwy o £1miliwn wedi i weithiwr gael ei anafu'n ddifrifol ar ôl cael ei daro yn ei wyneb gan fachyn craen.
Fe gollodd y dyn ei lygad a naw dant yn dilyn y digwyddiad yn ffatri Sofidel UK Limited yn Llansawel ger Castell-nedd.
Fe gafodd hefyd anafiadau difrifol i'w wyneb.
Ar 5 Tachwedd 2019 roedd y gweithiwr yn ceisio rhyddhau rîl bapur a oedd wedi mynd yn sownd - gan ddefnyddio craen uwchben.
Ond wrth geisio ei rhyddhau fe wnaeth rhan o'r craen gyffwrdd â'r rîl - fe wnaeth hynny achosi'r bachyn craen i swingio a tharo'r dyn yn ei wyneb.
Yn dilyn ymchwiliad gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE), canfuwyd fod Sofidel UK Limited - sy'n cynhyrchu papur sidan a thoiled - wedi methu â chynnal asesiad risg addas o beryglon posib riliau papur na sy'n dod allan yn gywir o'r peiriant.
Methwyd hefyd â sicrhau bod mesurau rheoli ar waith a bod gweithwyr yn cael gwybodaeth a chyfarwyddiadau ynghylch beth i'w wneud pe bai sefyllfa o'r fath yn codi.
Ar 13 Gorffennaf, yn Llys Ynadon Abertawe, fe blediodd Sofidel UK Limited yn euog i dorri Adran 2(1) o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974.
Fe gawson nhw ddirwy o £1miliwn a gorchmynnwyd iddynt dalu costau o £13,446.50.

Ar ôl y gwrandawiad dywedodd Arolygydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, Matthew Gray: "Gallai'r digwyddiad hwn fod wedi ei osgoi mor hawdd trwy gynnal asesiad risg addas a oedd yn cynnwys mesurau rheoli priodol ac arferion gweithio diogel.
"Dylai cwmnïau fod yn ymwybodol na fydd yr HSE yn oedi cyn cymryd camau gorfodi priodol yn erbyn y rhai na sy'n cwrdd â'r safonau gofynnol."