Y Fenai: 'Unwaith mae'r lôn yn cau mae'n gridlock'

Mae "cysylltedd gwael a diffyg dibynadwyedd" y ddwy bont sy'n cysylltu Môn a'r tir mawr yn cael "effaith negyddol ar ddenu buddsoddiad a chael busnesau i leoli ei hunain ym Môn".

Dyna gasgliad adroddiad sydd wedi ei gomisiynu gan Gyngor Môn.

Mae'r adroddiad yn galw ar weinidogion i wthio 'mlaen gyda thrydedd bont yn sgil pryderon am y cysylltiadau presennol gyda'r tir mawr.

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, dirprwy arweinydd y cyngor sy'n cynrychioli cymuned Porthaethwy a Llanfairpwll, fod angen diweddaru seilwaith sy'n brysur heneiddio.

"Pwrpas yr adroddiad yw cyflwyno mwy o dystiolaeth i Gomisiwn Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru," meddai.

"Fel da ni wedi'i weld yn y misoedd dwytha' 'ma, mae'r gwytnwch yna yn sigledig ofnadwy ac unwaith mae rhywbeth yn digwydd sy'n golygu fod Pont Britannia yn gorfod cau, mae'n creu trafferthion ofnadwy ar ddwy ochr y bont.

"Fedran ni ddim cario 'mlaen i ddibynnu ar ddau gysylltiad, un fydd wedi bod yn gorad ers 200 mlynedd ymhen tair blynedd ac un arall fydd wedi bod yn gorad am 175 o flynyddoedd ymhen dwy neu dair blynedd.

"Da ni'n sôn am hen, hen bontydd yma a 'da ni wedi gweld y trafferthion hefo Pont y Borth pan fu'n rhaid cau y bont honno nôl ym mis Hydref."