Mari Grug: 'Os yn poeni ewch at y meddyg yn syth'
Mae Mari Grug wedi dweud ei bod "mor lwcus" o'r gefnogaeth y mae wedi ei dderbyn ers datgelu iddi gael diagnosis o ganser.
Wedi rhannu ei diagnosis yn gyhoeddus ddydd Llun, dywedodd y cyflwynydd teledu a'r mam i dri bod y canser wedi lledu i'r afu a'r nodau lymff.
Serch hynny, dywedodd Mari fod gwahaniaethau amlwg yn lefel y gwasanaeth o'i gymharu â blynyddoedd a fu, gan bwysleisio'r holl bwysau sydd ar y gwasanaeth iechyd.
Anogodd pobl i fynd at y meddyg "yn syth" os ydyn nhw'n poeni am unrhyw gyflwr posib.
Yn siarad ar Dros Frecwast, dywedodd cyflwynydd Heno a Phrynhawn Da ei bod yn "teimlo'n bositif", a bod y gefnogaeth wedi bod "mor arbennig".
"Dwi wedi cael lot o negeseuon o anogaeth gan bobl sydd wedi dod drwy hyn yn dweud wrtha'i am ddal i gredu, dal y ffydd ac mae hynny o help hefyd," meddai.