Royal Welsh Show: Pictures from the second day in Llanelwedd

  • Cyhoeddwyd
GanRhys Ffrancon
BBC Cymru

Roedd yr haul yn tywynnu yn Llanelwedd ar ail ddiwrnod y Sioe Frenhinol, ac unwaith eto fe ddaeth y torfeydd yn eu miloedd.

Dyma gasgliad o luniau o ddydd Mawrth yn y sioe.

The sun was out in Llanelwedd on the second day of the Royal Welsh Show as people came in their thousands once more.

Here is some of what was to be seen at the ground on Tuesday.

maisy-rose

Maisy-Rose o Gastell-paen, sydd ond ychydig filltiroedd o Lanelwedd, yn eistedd ar gefn beic cwad // Maisy-Rose from Paincastle, mid Wales, having a go on a quadbike.

defaid

Hwrdd Valais Blacknose o fferm Gerallt a Ceri Jones yn Waunfawr yn cael ei baratoi ar gyfer y cystadlu // A Valais Blacknose, belonging to Gerallt and Ceri Jones from Waunfawr, being prepared for competition.

ffermwyr

Cyfle i roi'r byd yn ei le // A chance to talk to old acquaintances.

highland

Mae'r gwartheg Highland wastad yn boblogaidd yn y Sioe // The Highland cattle are always a popular attraction.

dreigiau

Jared Rosser a Leon Brown, chwaraewyr o ranbarth Dreigiau Gwent, yn cynnal sesiwn hyfforddi rygbi i blant // Dragons players Jared Rosser and Leon Brown staging a training session for children.

jack

Mae Jack, sy'n dair oed ac o Abertawe, wrth ei fodd â pheirianwaith // Three-year-old Jack from Swansea enjoying sitting on machinery.

bwyellwyr

Dwy o'r merched a oedd yn cystadlu gyda'r bwyelli - efeilliaid a phencampwyr o'r Weriniaeth Tsiec // Two of the women who were competing with the axe - twin sisters from the Czech Republic.

ela

Ela Roberts o Lithfaen, Pen Llŷn, gyda'i heffar â enillodd yn ei chategori - heffar ifanc Gwartheg Duon Cymreig // Ela Roberts from Llithfaen, Pen Llŷn, washing her Welsh Black heifer, which won in her class.

scott

Cyn-wythwr Cymru a'r Llewod, Scott Quinnell, yn rhoi cymorth mewn sioe goginio // Ex-Wales and Lions number eight Scott Quinnell helping during the cooking demonstration.

dafad

Hwrdd ar y ffordd i wynebu'r beirniaid // On the way to meet the judges.

prif gylch

Torf fawr yn gwylio'r cyffro o'r Brif Gylch // A large crowd enjoying the action at the Main Ring.

tan

Henri a'i frawd mawr Gwilym o Lanarmon-yn-Iâl yn ymarfer diffodd tân // Henri and his older borther Gwilym receiving a bit of fire training.

cyw

Cyflwynwyr Cyw yn perfformio'n fyw yn y Sioe, gyda'r plant yn gwirioni'n llwyr // S4C's Cyw presenters performing live at the ground.

godro

Luned, sy'n saith oed, a'i brawd bach Dewi, sy'n bump, o Lanpumsaint yn rhoi cynnig ar odro // Seven-year-old Luned and her little brother, Dewi, from Llanpumsaint, having a go at milking.

RAF

Sioe arbennig gan y Llu Awyr ar ddiwedd y prynhawn // The RAF with a spectacular at the end of the afternoon.

Hefyd o ddiddordeb:

Watch on iPlayer banner
Watch on iPlayer footer