Seiclo i Bilbao: 'Eisiau 'neud rhywbeth er cof am Justin'
Mae dyn o Gaerdydd wedi dechrau ar daith seiclo dros 1,000km o Gymru i Bilbao er cof am ei ffrind.
Y llynedd bu farw ffrind Aled Jones, Justin, a oedd yn byw yn Bilbao.
Mae Aled yn anelu at gwblhau'r daith 1,050km o Gaerdydd i Bilbao heb stopio ac o fewn 48 awr.
Mae eisoes wedi hel £4,000 er budd elusennau Mind yn y Deyrnas Unedig a Confederación Salud Mental España yn Sbaen.
"Cyn iddo fe farw 'naethon ni drafod ar y ffôn am seiclo o Gaerdydd i Affrica, a chwrdd â fe yn Bilbao a seiclo gyda'n gilydd," meddai Aled.
"O'n i'n drist iawn 'nath hynny ddim digwydd wrth gwrs.
"Yn anffodus fuodd e farw blwyddyn diwetha'.
"'Na'th e ladd ei hun yn drychinebus. Doedden i ddim yn gwybod ei fod e'n byw gyda salwch meddwl.
"Yn amlwg gath e ddylanwad mawr ar lot o bobl, a lot o bobl yn teimlo'n drist iawn ei fod e wedi diodde', ac eisiau 'neud rhywbeth er cof amdano fe."