Yr Eisteddfod: Sut i wylio a gwrando
- Cyhoeddwyd

Ceri Haf Roberts yn canu yn Eisteddfod Tregaron
Os ydych chi'n methu bod ym Moduan eleni 'does dim rhaid colli dim o'r hwyl, y cystadlu, y cyngherddau nac awyrgylch y prif faes - oherwydd bydd yna ddarpariaeth estynedig o holl ddigwyddiadau'r Eisteddfod ar-lein, ac ar y radio a theledu drwy gydol yr ŵyl.
Dyma lle allwch chi fynd i wylio a gwrando.
BBC Cymru Fyw
Ar Cymru Fyw bydd holl straeon a hwyl y maes pob dydd. Yn ogystal ag orielau lluniau dyddiol, trwy gydol yr wythnos bydd clipiau fideo o uchafbwyntiau cystadlu'r Pafiliwn a rhestr gynhwysfawr o holl enillwyr y cystadleuthau. Dilynwch bbc.co.uk/cymrufyw neu lawrlwythwch Ap Cymru Fyw.
BBC Radio Cymru
Bob bore, Aled Hughes fydd yn fyw o'r Maes gan grwydro i bob cwr o'r Eisteddfod gan gynnwys y Maes Carafanau. Tîm cyflwyno O'r Maes eleni fydd Shân Cothi, Steffan Rhys Hughes a Ffion Emyr, a byddan nhw'n darlledu o'r Sadwrn cyntaf i'r Sadwrn olaf.
Ar Bore Sul yn fyw o'r Maes, bydd Iwan Griffiths yn cael cwmni gwesteion Eisteddfodol yn eu mysg, yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd ac eraill. Iwan Griffiths hefyd fydd yn dod â holl hanes y dydd ar Tocyn Wythnos o ddydd Llun i ddydd Gwener. Bydd Dros Ginio yn fyw gyda Jen Jones ddydd Mawrth ac Iau; Dewi Llwyd fydd wrth y llyw ddydd Gwener.
Bydd Radio Cymruhefyd yn darlledu Gig y Pafiliwnyn fyw nos Iau a bydd cyfle i fwynhau uchafbwyntiau Llwyfan y Maes a'r Tŷ Gwerin ar raglenni hwyr yr orsaf yr wythnos ganlynol, yn ogystal â Brwydr y Bandiau.
S4C
Ar S4C ac S4C Clic, dolen allanol, gydol yr wythnos bydd camerâu BBC Cymru ar hyd a lled y Maes - yn y Pafiliynau, y Babell Lên, Llwyfan y Maes a'r Tŷ Gwerin. Tudur Owen, Heledd Cynwal a Nia Roberts fydd yn arwain y gynulleidfa drwy ddigwyddiadau'r dydd a'r prif seremonïau a'r cystadlu. Sage Todz ac Eleri Sion fydd yn crwydro o amgylch y maes yn adlewyrchu'r ŵyl. Bydd Elin Fflur a Trystan Ellis Morris yn ymuno â Tudur Owen gyda'r nos gan gyfleu uchafbwyntiau'r dydd.
BBC iPlayer
Bydd ffrwd arbennig Sedd o'r Pafiliwn yn ddyddiol ar BBC iPlayer - gall y gynulleidfa ei gyrraedd trwy fynd i gategori 'Cymru' ar iPlayer. Bydd y darlledu hefyd yn cynnwys y perfformiadau gorau o Faes B a Llwyfan y Maes, yn ogystal â'r Oedfa fore Sul, y Gymanfa nos Sul ac uchafbwyntiau'r Babell Lên.
BBC One Wales and BBC Two Wales
Cyflwynydd BBC Radio 1, Sian Eleri fydd yn dod ag uchafbwyntiau a straeon yr wythnos i BBC One Wales a BBC Two Wales yn ogystal â BBC Four. Yn y rhaglen gyntaf bydd Sian yn clustfeinio ar gyngerdd Pedair a Chôr Gwerin yr Eisteddfod, yn cwrdd â gwneuthurwyr y Goron a'r Gadair eleni, ac yn profi perfformiadau cerddorol amrywiol yr ŵyl.
BBC Wales Today
Ar Wales Today, Jennifer Jones fydd yn dod â'r straeon diweddaraf o'r Maes yn fyw bob dydd rhwng dydd Llun a dydd Gwener yn y bwletinau amser cinio a min nos.
BBC Radio Wales
Bydd Radio Wales yn edrych ymlaen at y Brifwyl yn The Arts Show ddydd Gwener, 4 Awst gydag Aneurin Karadog, Ceri Wyn Jones a Betsan Moses yn westeion, ac yn edrych yn ôl ar Y Lle Celf mewn rhaglen arbennig nos Wener 11 Awst. Bydd Huw Stephens yn darlledu'n fyw o'r Maes ar ei raglen nos Fercher.
BBC Wales News
Bydd BBC Wales News Online yn rhoi sylw dyddiol gydol yr wythnos i straeon o'r Maes.
Horizons
Mi fydd Horizons/Gorwelion. sef prosiect sydd wedi ei ariannu gan BBC Cymru a'r Cyngor Celfyddydau, yn cynnal cyfres o Sesiynau Gwyllt wedi eu ffilmio o gwmpas ardal yr Eisteddfod gydag artistiaid fel Tara Bandito, Alffa a Pys Melyn. Mi fydd yna wythnos o sesiynau yn stiwdio Sain, ac mi fydd y prosiect yn adlewyrchu'r amrywiaeth o gerddoriaeth fydd i'w glywed ar y maes ac yn yr ardal leol gydol yr wythnos.
Ar y Maes
Ar y Maes ei hun, yn ogystal â'r darlledu dyddiol, bydd cyflwynwyr Radio Cymru ac S4C yn tywys y torfeydd drwy nosweithiau cerddorol Llwyfan y Maes.

