Eisteddfod: 'Mae hi'n wlyb o dan draed'
Mae trefnwyr yr Eisteddfod yn gofyn i bobl wisgo'n addas yn dilyn glaw trwm dros nos sydd eisoes wedi creu rhai mannau mwdlyd ar y maes.
O ganlyniad, "gwisgwch yn gall" oedd cyngor trefnydd y brifwyl, er gobaith fod tywydd gwell i ddod yn ystod yr wythnos.
Dyma gyngor gohebydd Cymru Fyw, Iolo Cheung, ar fore cyntaf y Brifwyl ym Moduan.